Oeddech chi’n un o’r miloedd a dyrrodd i faes y castell yn Y Fenni ddechrau’r mis ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol? Beth aeth a’ch bryd chi ar y maes? Neu a oeddech chi’n un o’r rhai a fanteisiodd ar ddarpariaeth Radio Cymru ac S4C a mwynhau’r cyfan o’r soffa gatre’ ? Mae cymaint o bethau i’w wneud ar y maes erbyn hyn, ond er gwaethaf y stondinau amrywiol, prysurdeb y Babell a’r Lolfa Lên, Tŷ Gwerin, Llwyfan y Maes, y Theatr a’r Sinemaes newydd, i nifer y pafiliwn (er nad yn binc bellach) yw’r prif ffocws a bu’r cystadlu’n frwd iawn drwy’r wythnos.
Bu cryn dipyn o sôn am y Pafiliwn newydd yn ystod yr wythnos a phawb, yn enwedig y perfformwyr a’r cystadleuwyr yn canmol yr acwstig ac agosatrwydd y gynulleidfa. Un o’r rhai cyntaf i berfformio yno oedd Shân Cothi, unawdydd cyngerdd y Band Mawr. Roedd hon yn noson gofiadwy iawn ac yn ôl pob sôn yn haeddu ei lle yn llyfr mawr blynyddol ‘Guinness’ am mai dyma’r tro cyntaf erioed, yn ôl y clarinetydd ac arweinydd Rhys Taylor, i Fand Mawr a chôr berfformio gyda’u gilydd.
Roedd y pafiliwn dan ei sang nos Sul ar gyfer y Gymanfa Ganu a hynny o dan arweiniad y cerddor adnabyddus Alwyn Humphreys. Hon oedd canfed Cymanfa anenwadol yr Eisteddfod Genedlaethol, canwyd nifer o’r emynau a ganwyd yn y gymanfa gyntaf yn 1916 a chofiwyd hefyd i’r Gymanfa hynny gael ei chynnal rai wythnosau’n unig ar ôl rhai o frwydrau mwyaf y rhyfel byd cyntaf. Roedd y rhaglen hefyd yn adlewyrchu emynau’r ganrif gyda un emyn yn cynrychioli pob degawd. Wrth gwrs ‘Pantyfedwen’ oedd emyn yr 1960au a bu canu brwd o’r emyn â ddisgrifiodd yr arweinydd fel “hoff emyn Cymru ym mhob arolwg a phleidlais”.
Mae darllenwyr CLONC yn gyfarwydd iawn â darllen am lwyddiannau eisteddfodol y cystadleuydd ifanc brwd o Lanllwni, Alwena Mair Owen ond eleni oedd y tro cyntaf iddi gystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol a chipiodd yr ail wobr yng nghystadleuaeth yr Unawd o dan 12 oed ar ei hymgais cyntaf.
Un o brif seremonïau’r Ŵyl yw Seremoni’r Prif lenor Rhyddiaith ar y prynhawn Mercher ac un o ferched Llanybydder, Angharad Dafis (Dwylan gynt) oedd yn traddodi’r feirniadaeth eleni ar ei rhan hi a’i chyd-feirniaid.
Nest Jenkins, Lledrod a phrif ferch Ysgol Bro Pedr gipiodd y wobr gyntaf yng nghystadleuaeth cyntaf bore Iau, sef y Llefaru Agored ac awr yn ddiweddarach daeth llwyddiant cyntaf yr wythnos i’r unawdydd Kess Huysmans, Llanbed pan enillodd y wobr gyntaf yng nghystadleuaeth yr Unawd Bariton/Bas 25 oed a throsodd. Wrth i Kess ddisgwyl am ganlyniad y gystadleuaeth roedd ei gyd-aelodau yng Nghôr Cwmann yn diddanu’r dorf o’r Llwyfan Perfformio ger y patio bwyd, a phrynhawn Gwener merched Lleisiau’r Werin oedd yn gyfrifol am yr adloniant yma.
Ar brynhawn Gwener y brifwyl, yn syth ar ôl seremoni’r Cadeirio bydd cyfrol y Cyfansoddiadau Buddugol yn mynd ar werth am y tro cyntaf, a braf oedd darllen mai Heiddwen Thomas, Pencarreg oedd y buddugol am gyfansoddi dwy fonolog gyferbyniol. Cofiwch brynu copi er mwyn darllen ei gwaith buddugol – rwyn siŵr y bydd y darnau i’w clywed yn fuan iawn ar lwyfannau ein eisteddfodau.
Wrth i filoedd tyrru i gyfeiriad y Llwyfan Perfformio nos Wener i fwynhau perfformiad Huw Chiswell a’r Band daeth bloedd enfawr o’r Pafiliwn pan gyhoeddwyd mai Côr Sarn Helen oedd yn fuddugol yng nghystadleuaeth y Côr Llefaru. Detholiad o’r awdl ‘Afon’ gan Gerallt Lloyd Owen oedd y darn prawf a chafodd y côr ganmoliaeth uchel iawn am eu perfformiad. Yng ngeiriau Dorian Morgan bore Sadwrn “ wel – fe wnaeth merched Bridge Street yn dda neithiwr”. Cyfeirio’r oedd e at lwyddiant Elin Williams (gynt o’r Fron), hyfforddwraig Côr Llefaru Sarn Helen a Delyth Medi (gynt o Landre), arweinydd Côr Merched Canna, a gipiodd y wobr gyntaf yng nghystadleuaeth y Corau Gwerin. Llongyfarchiadau i Delyth a’r côr hefyd ar gipio’r ail wobr yng nghystadleuaeth y côr merched ac am ennill y wobr am y perfformiad gorau o gân Gymraeg o blith holl gorau’r ŵyl. Braf hefyd oedd gweld cymaint o gantorion yr ardal yn canu mewn gwahanol gorau yn ystod yr wythnos.
Uchafbwynt cystadlu unrhyw unawdydd lleisiol amatur yng Nghymru yw Gwobr Goffa David Ellis, y Rhuban Glas dros 25 oed ac eleni gwahoddwyd y pedwar unawdydd gorau o blith y cystadlaethau lleisiol i gystadlu ar y prynhawn Sadwrn olaf. Cafwyd perfformiadau arbennig gan y pedwar unawdydd ond ym marn unfrydol y beirniaid roedd un perfformiad goruwch y gweddill a pherfformiad Kess Huysmans oedd hwnnw a chafodd groeso cynnes iawn yn ôl i’r llwyfan i’w arwisgo gyda medal goffa David Ellis. Un o’r gwobrau yw gwahoddiad i berfformio yn Awstralia dros ddathliadau Gŵyl Dewi Eglwys Gymraeg Melbourne. Sgwn i ai 2017 fydd y flwyddyn pan fydd Cymry Melbourne yn dathlu wrth fwyta Waffles Tregroes yn hytrach na phice bach! Ry ni gyd yn edrych ymlaen yn barod at gael clywed hanes y daith.
A dyna ni diwedd wythnos arall yn ‘bubble’ yr Eisteddfod Genedlaethol. Llongyfarchiadau i’r holl gystadleuwyr, eu hyfforddwyr a’r holl drefnwyr. Ble nesa’? Môn 2017, Caerdydd 2018, Conwy 2019 a Cheredigion (ardal Llanbed’ falle – croesi bysedd) 2020.
Cyn hynny cofiwch am Eisteddfod Llanbed’ dros y penwythnos – wela’i chi ‘na!