Lomax – Atgofion o weithio yn siop bapurau olaf Llanbed

gan Dorian Morgan
Ann Gately yn gwerthu Clonc yn Lomax
Ann Gately yn gwerthu Clonc yn Lomax

O ni’n rhyfeddu bod cymaint o bobl yn dal i alw’r lle yn Lemuel Rees. Fel nifer o siopau eraill y dre, byddai enwau’r genhedlaeth gynt yn dal eu gafael yn dynn. Yn y fan honno, fel Lomax erbyn hynny, y ces i’n swydd gynta. Ond ro’dd meddwl am orfod codi am chwech y bore ar ddydd Sul ddim yn apelio o gwbl. I unrhyw un yn ei arddegau, ro’dd rhaid trio aros yn y gwely cyhyd â phosib (ar wahân i’r bois ffarm o’dd wedi godro llond beudy erbyn i blant y dre wybod pa ddiwrnod o’dd hi).

Papur Bro Clonc ymhlith y papurau a'r cylchgronau yn Lomax
Papur Bro Clonc ymhlith y papurau a’r cylchgronau yn Lomax

Ond o’dd pethau ddim mor boenus â hynny chwaith yn gynnar gynnar ar fore Sul. Bydde ni’n mynd fflat owt i wneud yn siŵr bod y cylchgronau iawn yn mynd yn y papurau iawn. Bydde Mr Lomax ddim yn hapus o weld cylchgrawn y Sunday Telegraph yn chwarae pî-pô yn y News of the World. Hyd yn oed bryd hynny (tua chwarter canrif yn ôl erbyn hyn) ro’dd y papurau dydd Sul yn orlawn o supplements gwahanol, er bod y rhan fwyaf ohonyn nhw’n dal i aros i gael eu darllen. Yna byddai’n rhaid llenwi’r bagiau melyn llachar er mwyn i’r bechgyn a’r merched dosbarthu fynd â nhw at y stepen drws. A gweddi “cofia bod Mr Evans Number 8 ar ei wyliau”. O ni’n gwybod yn iawn ble o’dd Mr Evans a’i wraig wedi mynd ‘fyd – ond o’dd dim ishe dweud popeth o’dd e!

Ie – o’ch chi’n dod i wybod popeth am bawb. O’dd pawb bron iawn yn prynu papur bryd hynny. Ac o’dd hynny’n golygu eich bod chi’n dod i nabod y croestoriad mwya diddorol o bobl. A dod i nabod eu harferion nhw. Ma’ nhw’n dweud bod y papur ry’ch chi’n ei ddarllen yn dweud lot fawr amdanoch chi. I rywun sy’n hoff o bobl – doedd na unman gwell i weithio. O ni’n gwybod hanes anifeiliaid sawl cwsmer, trefniadau gwylie rhai eraill, ac ambell un yn mynd mor bell â thrafod ei bunion (falle bo nhw wedi cysmysgu Lemuel gyda Lodwick).

Ffion ac Ann 2007
Ffion ac Ann 2007

Gyrhaeddodd y peiriant loteri fyd cyn i fi adael. Fuodd na gyfnod pan o’dd pawb yn Llambed yn heidio i Felinfach i geisio ennill ffortiwn. Ond buan iawn y daeth y peiriant i Lomax – a rhesi a rhesi o bobl yn ciwio fel pethau dwl oherwydd bod yr hysbyseb wedi dweud It could be you. Fi’n cofio un wraig yn cwyno bod y ciw mor hir bod angen commode arni – a Mrs Commode fuodd hi byth. Atgofion bach fel’na sy’n aros yn y cof. Yr hwyl, y chwerthin, y gwerthu a’r cyfeillgarwch. Bues i’n lwcus i gael criw da – Sandra, Mark, Gwen, Geraint, Paddy, Caroline, Stephanie, Dafydd, Sally a gweddill y criw.

Un atgof swreal arall yw’r bore y bu farw Diana, Tywysoges Cymru. Erbyn i fi gyrraedd y siop ro’dd y newyddion wedi torri, ond wrth gwrs, lluniau ohoni yn eistedd ar gwch yn edrych yn fyfyrgar o’dd ar glawr pob papur yn hytrach na’r gwirionedd erchyll o Baris. Buodd y ffôn ar dân drwy’r bore gyda phobl eisiau neilltuo copïau o’r ail argraffiad, a ddaeth yn hwyrach yn y bore. Enghraifft efallai o’r ffordd yr oedd siop fel hon yn chwarae rhan bwysig yn y gymuned. Siop lle byddai pobl yn sgwrsio am newyddion a materion y dydd, lle roedd papur newydd – boed yn bapur dyddiol neu wythnosol – a chylchgronau, yn bwysig.

O’dd adeg y Nadolig wastad yn gyfnod arbennig yn Lomax. A lan stâr yn enwedig, pan fyddai’r teganau diweddaraf yn cyrraedd a Caroline fel Sion Corn yn goruchwylio’r cyfan. Byddai pobl yn dod o bell ac agos (ac i nifer o siopau eraill y dref run pryd) i weld pa deganau oedd angen eu prynu’r flwyddyn honno. Adeg prysur arall o’dd y 5ed o Dachwedd, ac o’dd llond twll o ofn arna’i y bydde’r arddangosfa tân-gwyllt yn ildio cyn pryd.

Mae’n drist meddwl mai archfarchnadoedd a siopau bwyd yn unig fydd yn gwerthu papurau yn y dref o hyn ymlaen. Yn gynharach eleni, fe aeth papur newydd yr Indepedent yn bapur digidol yn unig – hynny yw – does na ddim fersiwn papur mwyach, dim ond un electronig. Tybed faint ohonoch chi sy’n bwrw golwg ar wefannau fel Mail Online yn hytrach na phrynu copi? Oes well gyda chi ddarllen fersiwn gyfan o bapur newydd ar eich tabled? Neu ddilyn rysáit ar y we yn hytrach na chylchgrawn?   

Shwt yn y byd ma’ cystadlu? Gall datblygiadau technolegol fel hyn fyth helpu achos siopau fel Lomax. Ac wrth gwrs, dyw archfarchnadoedd sy’n gwerthu popeth ddim yn help chwaith. Ond ma un peth yn sicr, rwy’n ddiolchgar dros ben fy mod i wedi cael cyfle i weithio mewn lle mor arbennig. Llond siop o straeon. Llond siop o atgofion.