Newyddion gan Lysgenhades CAFC Sir Gâr 2017, Georgina Cornock-Evans

gan Lisa Jones
Georgina Cornock-Evans
Georgina Cornock-Evans

Mae’r digwyddiadau codi arian sydd wedi cymerid lle hyd yn hyn yn cynnwys noson Gwin a Charcuterie yn Wrights Food Emporium a chododd £1166 yn ogystal â noson Cyri yn Dwbis, Crosshands a gododd £ 390.

Ges i’r cyfle i gefnogi Gymanfa Fodern CFFI Sir Gâr nos Sul y 13eg o Fawrth. Hyfryd oedd clywed yr artistiaid, sef Ffion Jones, Eirlys Davies, Owain Davies, Dafydd Evans, Elen a Lleucu.

Fel rhan o fy nyletswyddau rwyf wedi bod yn ymwneud â helpu i ddylunio ein logo. Cafodd Nerys Douch, merch leol o Gwmann y cyfle i weithio ochr yn ochr â’r Pwyllgor i ddylunio’r logo.

Ar hyn o bryd Nerys yn dysgu yn Ysgol Bro Pedr ac yn ogystal â dysgu mae’n mwynhau defnyddio ei doniau i greu dyluniadau ar gyfer sefydliadau amrywiol. Hoffem fel pwyllgor ddiolch i Nerys am ei gwaith caled.

Nerys Douch
Nerys Douch

Mae’r Pwyllgor Merched hefyd wedi bod yn brysur iawn yn penderfynu ar ddillad. Bydd y rhain ar gael i’w prynu mewn llawer o sioeau lleol; digwyddiadau a gynhelir gan y Pwyllgorau, neu gallwch gysylltu â mi ar georginacornock@hotmail.co.uk.

Ar ddydd Sadwrn 16 Ebrill roedd yna ddau ddigwyddiad codi arian yng Nghaerfyrddin.

Yn Festri Capel Elim roedd yna Fore Coffi wedi’i drefnu gan Mrs Ann Walters Clynmelyn. Gyda cymorth nifer o aelodau capel a chyfeillion roedd y digwyddiad yn llwyddiannus iawn yn denu bron i 100 o bobl .

Yn cloi’r bore roedd Mr Bryan Thomas, Cadeirydd Pwyllgor Lleol Caerfyrddin a diolchodd Mr Gwynne Williams, Llywydd y digwyddiad, ac roedd yn falch iawn o weld Mr Brian Jones, ein Llywydd Etholedig, sydd dal i fod yn aelod o Gapel Elim – a’i wraig Helen – yn y digwyddiad.

Yn y nos, Neuadd Ddinesig San Pedr oedd y lleoliad ar gyfer Cinio Elusennol ac Arwerthiant a drefnwyd gan Ms Sarah Jane Redman o Prostock Vets. Noddwyd byrddau gan gwmnïoedd lleol a chenedlaethol a gafodd y 150 o westeion eu trin i bryd o fwyd tri chwrs a ddarperir gan Gegin Fach y Wlad. Y siaradwr gwadd oedd Mr Derek Rees, a’r Arwerthwyr am y noson oedd Mr Elwyn Thomas, (hefyd yr M.C.), a Huw Evans. Gwerthwyd y 25 o eitemau, pob un ohonynt wedi eu rhoi, am gyfanswm pedwar ffigwr.

Diolchodd Mr Brian Jones, Castell Howells Foods, Sarah Jane am drefnu’r noson ac i bawb am eu cefnogaeth barhaus.

Cinio Elusennol
Cinio Elusennol

Dyma fideo o Georgina Cornock-Evans ac Eiry Griffiths yn siarad am drefniadau’r noson a gynhaliwyd yn Llanbed i godi arian.