Oedfa Eisteddfod Llanbed 2016

Delyth Phillips
gan Delyth Phillips

Tro capel Brondeifi oedd hi eleni i groesawu’r oedfa undebol sy’n rhan annatod o ddigwyddiadau Eisteddfod Rhys Thomas James, Pantyfedwen, Llanbedr Pont Steffan.

Ers i’r Eisteddfod gynnal ei hoedfa yng nghapel Brondeifi y tro diwethaf, y mae un newid amlwg wedi digwydd yn hanes yr eglwys: mae’r Parchedig Goronwy Evans wedi ymddeol, a’r Parchedig Alun Wyn Dafis wedi’i sefydlu’n weinidog arni.

2016-08-28 10.36.45Alun Wyn felly a’n croesawodd yn gynnes, a fe fu wrthi’n ein hannerch yn ystod yr oedfa.

‘Faint fyddech chi’n fodlon talu am basned o gawl?’ oedd cwestiwn mawr y gweinidog, a dyna oedd thema’r oedfa. Fe’n tywysodd ni i stori Esau a Jacob yn llyfr Genesis. Soniodd yn aml am werth pethau, ac fe’n rhybuddiwyd ni i beidio gwerthu popeth sydd gyda ni. Rhoddwyd ychydig o hanes gweledigaeth Syr D J James, Pantyfedwen, a’r gwaddol a adawodd i noddi digwyddiadau celfyddydol tebyg i Eisteddfod Llanbed.

Cafodd y Parchg Goronwy Evans, un a fu’n Ysgrifennydd Cyffredinol yr Eisteddfod am 35 mlynedd, y fraint o gloi’r gwasanaeth.

Yn ychwanegol at y tri emyn Undodaidd (o waith Jacob Davies, D. Elwyn Davies a T. Oswald Williams), canwyd gydag afiaith ar derfyn yr oedfa emyn mawr Rhys Nicholas, ‘Tydi a wnaeth y wyrth, O Grist Fab Duw’ a thôn odidog Eddie Evans, ‘Pantyfedwen’ – rhai o’r cynnyrch enwocaf i ddod o stabl Eisteddfod Rhys Thomas James Pantyfedwen, Llanbedr Pont Steffan.