Pencampwriaeth Rygbi Cyffwrdd Ieuenctid 2016

gan Iwan Evans

FB_IMG_1471470609357O ddydd Gwener y 19fed Awst hyd y 21ain, bydd Pencampwriaeth Rygbi Cyffwrdd Ieuenctid 2016 yn cael ei gynnal yn Arnhem, Yr Iseldiroedd.

Bydd Cymru yn hel 4 tîm allan i’r pencampwriaethau. Bydd tîm Dynion, Merched a Cymysg dan 18 yn ogystal a thîm Cymysg dan 15 yn trafaelu i’r Iseldiroedd ar ddydd Iau y 18eg.

Mae’r bencampwriaeth yn cynnwys 23 tîm o 10 gwahanol gwlad gyda thimoedd o Gymru, Lloegr, Yr Alban, Iwerddon, Ffrainc, Yr Almaen, Dewisiedig Ewrop, Y Dwyrain Canol, Guernsey a’r Iseldiroedd yn cystadlu.

FB_IMG_1471470375092Bues i a Tomos Jones yn llwyddiannus yn ein ceisiadau i gael ein cynnwys yn nhîm y Dynion dan 18, a bues i hefyd yn ddigon ffodus i gael fy enwi’n gapten ar y tîm. 

Mae Rygbi Cyffwrdd neu Touch yn gêm sydd yn lledaenu dros y wlad yn rhyfeddol o gyflym. Datblygiad o Rygbi’r Gynghrair yw’r gêm, lle mae’r dacl yn digwydd drwy gyffyrddiad. Mae’n gêm hynod o gyflym sydd yn siliedig ar ffitrwydd, sgil a phŵer. Mae’r gêm wedi bod yn cael ei defnyddio llawer yn enwedig i hybu ymroddiad yn rygbi gan blant ysgol.

FB_IMG_1471470296398Bydd diweddariadau o’r canlyniadau yn cael eu cyhoeddi ar Facebook (Wales Touch Association) ac ar Trydar (@WalesTouch) Pob Lwc i Gymru!