Penwythnos Dartiau Llambed

Bedwyr Davies
gan Bedwyr Davies

2016-01-13 19.32.36

Ym mis Mai bydd Llambed yn gartref i Benwythnos cyntaf Dartiau y dre. Bydd hyn yn dilyn llwyddiant arddangosfeydd yn y dre dros y blynyddoedd dwethaf, yn cynnwys Gary Anderson Pencampwr Cefn wrth Cefn y byd.

Ar nos Wener 6ed o Fai bydd arddangosfa yn y Clwb Rygbi gyda Dennis Priestley a Peter Manley, dau o enwau mawr y 1990au a blynyddoedd cynnar y PDC, Dennis yn gyn-bencampwr y byd ar ddau achlysur. Ar y meic bydd llais cyfarwydd John Gwynne. Dim ond 100 tocyn sydd ar werth. Tocynnau trwy law Bedwyr Davies ar 07580128039. £20 (£15 os wedi’i archebu cyn 31 o Ionawr.

Ar y dydd Sadwrn bydd cystadleuaeth dartiau yn y Castle Green yn dechrau am 12.30 gyda dros £1000 i’w ennill. Mae’r gystadleuaeth wedi’i noddi gan bwydydd Castell Howell a bydd pwyntiau ranc Cymdeithas Dartiau Cymru ar gael i’w hennill. Pris chwarae £7 ond am ddim i’r rhai sydd wedi talu am docynnau i’r digwyddiad yn y Clwb Rygbi nos Wener.

Mae’r penwythnos wedi’i threfnu gan gwmni hybu Bishop of Bedlam a Mavis a Bryan Beynon o’r Castle Green.

Noddwyr y penwythnos yw Dartiau Red Dragon Penybont, Home-Pro Dartboard Light Surrounds o Iweddon a Pies R Us o Kelso yn yr Alban.