Spinathon Plant Mewn Angen

gan Arwel Jones

Ar ddydd Gwener 18fed Tachwedd – diwrnod Plant Mewn Angen – bu staff, cwsmeriaid a dosbarth GP Referral Tregaron a Llambed yn cymryd rhan mewn Spinathon.

Y nod oedd sicrhau bod 2 feic yn troelli am 12 awr heb stopio gydag unrhyw un oed yn cymryd rhan yn rhoi cyfraniad at Blant Mewn Angen.

Sicrhawyd i gwblhau’r sialens a chodi £190 i Blant Mewn Angen. Beiciwyd dros 320 milltir! “Roedd hi’n braf gweld cymaint o ddiddordeb a chynnwrf yn y ganolfan yn ystod y dydd wrth i’r staff a chwsmeriaid weithio gyda’i gilydd i gwblhau’r sialens.

Bu ystod eang o unigolion yn beicio yn ystod y dydd o’r hen i’r ifanc; a braf oedd gweld cefnogaeth a chyfranogiad y grŵp GP Referral yn ystod y dydd. Diolch i bawb am eu cefnogaeth ac edrychwn ymlaen at flwyddyn nesaf yn barod. Tybed a allwn feicio ymhellach?”