Taith Elusennol er cof am Greg Evans

gan Anthea C Jones
Poster y daith
Poster y daith

Ar ddydd Sul, Mai 1af, mae Clwb Moduro Llanbed a’r Cylch yn trefnu Taith Elusennol ar gyfer Ceir Clasurol a Rali.

Roedd trefnu taith o’r fath yn freuddwyd i Greg Evans, cyn-lywydd y clwb, cyn i’w daith ef ei hun mewn bywyd gael ei dorri’n fyr gan salwch ar yr ymennydd.

Bydd y daith yn dechrau o’r Rookery yn Llanbed a disgwylir i’r ceir ymgynnull o 11 y bore ymlaen, gyda’r daith yn dechrau am 12.30 o’r gloch. Bydd y ceir yn ymlwybro un ar ôl y llall ar hyd lonydd Ceredigion am tua 75 milltir gydag egwyl am baned hanner ffordd.

Mae croeso i bawb ac i bob math o geir, boed yn hen neu newydd, yn glasurol neu rali, yn lliwgar neu’n llwyd! Codir ffi o £20 y car a bydd yr elw’n mynd at Gronfa Ymchwil Tiwmor ar yr Ymennydd.

I orffen y daith mae adloniant a lluniaeth wedi’i drefnu yng Nghanolfan Lloyd Thomas yn y Brifysgol yn Llanbed am gost o £15 y pen, i gynnwys carferi a disgo. Croeso i bobl nad ydynt yn rhan o’r daith i ymuno yn yr hwyl ar y noson.

Am fwy o fanylion neu docynnau, cysylltwch a Delun ar 07977790339.

Pa fordd well o dreulio Sul Gŵyl y Banc?