Taith Patagonia dros Ganolfan Cancr Felindre

gan cheryl

Gyda thoriad gwawr ar Dachwedd 22ain 2015 dechreuodd Rhun a finne ar ein taith trawsatlantig grwydrol i Batagonia. Siwrnai o ddeugain a dwy o oriau ar awyrennau a bysiau. Glanio yn Esquel, tref brydferth ac hudolus iawn. Cael y wefr o gofio, a synnu at ddewrder y Cymry cyntaf hynny a deithioddd am dros dri mis ar y Mimosa, gant a hanner o flynyddoedd yn ôl.

Cwrdd wedyn â’r grŵp cyntaf o drecwyr oedd newydd orffen y sialens, a’i harweinydd Shane Williams yn ein hysbysu “It’s brutal … and I am fit, but it’s really challenging”. Tarodd realiti’r trec ni.

Cwrdd â Gwynfor, Elma a Morfudd yn Esquel
Cwrdd â Gwynfor, Elma a Morfudd yn Esquel

Syrpreis hyfryd i Rhun a fi ar y noson gyntaf oedd cael ein croesawu gan Morfudd Slaymaker, Elma Phillips a Gwynfor Lewis, ill tri o Lanbed ac ar wyliau ym Mhatagonia. Roedd eu cefnogaeth a’u hanogaeth yn hwb mawr i ni. Gwefr arall oedd cael siarad Cymraeg â’r brodorion a chael ein swyno gyda’u hacen felodaidd.

Yr her ar y diwrnod cyntaf oedd cerdded i fyny ac i lawr Graig Goch yng nghwmni dros cant o “rifeleros” a’u ceffylau, a phobl leol. Defod flynyddol yw hon i ddathlu’r olygfa a welodd y sefydlwyr cyntaf o Gymry. Galwyd y lle yn Gwm Hyfryd. O’r funud hon sylweddolon ni siwrnai mor anodd a dyrys â wynebodd ein cyndadau gant a thri deg o flynyddoedd yn ôl i’r diwrnod.

Teithio i Bariloche wrth droed yr Andes ar yr ail ddiwrnod a dechrau’r trec o ddifri. Cychwyn cerdded a’r glaw yn tywallt i lawr. O hyn ymlaen y cwestiwn allweddol oedd “Gwisgo neu ddadwisgo dillad glaw a’r gaiters?” Roedd ein holl eiddo, bwyd a dillad wedi eu pacio’n dynn i fagiau 75litr, rhaid oedd eu cario ar ein cefnau trwy gydol y trec. Ein harweinydd oedd Rhod Gilbert a’i arwyddair oedd “I’ll lead from behind!!”

O El Tambo i gaban Jacob, o Pampa Linda i gaban Roco, cerddon ni trwy goedwigoedd gwyrddlas tebyg i dirlun Cymru, dros ardaloedd corsog mwdlyd, dringo fforestydd serth ac ymlwybro’n flinedig mewn eira dwfn. Cysgu mewn cabanau, pawb fel sardîns a heicio am bum munud i’r toiled agosaf trwy’r eira.

Ar diwedd y diwrnod hir o El Tambo i Gaban Jacob cynghorwyd y grŵp i feddwl yn ddwys ynglŷn â pharhau â’r trec. Dyma’r unig le y gellid dychwelyd ohono oherwydd byddai’r amodau yn dwysàu o hyn ymlaen. Sylweddolodd pawb mor anghysbell oedd y daith. Fe ddaeth hyn yn fwy ymddangosiadol ar ddiwedd y daith pan sylweddolon ni taw dim ond pedwar person tu allan i grŵp ni a welon trwy gydol y daith cerdded.

Rhun a Cheryl
Rhun a Cheryl

Dringo ac esgyn dros glogwyni serth, cerdded trwy eira trwchus, dros gopaon creigiog ar uchder o 1,700 medr, o amgylch llynnoedd ac afonydd iâ, a chroesi afonydd a’u llifeiriant rhewllyd. Trwy fforestydd bambŵ diddiwedd, dringo dros goed marw, llithro i lawr llethrau mwdlyd a’r bagiau yn drwm ar ein cefnau. Mi all unrhywun tybio taw un cwrs antur hir o ni arno!

Rhaid oedd canolbwyntio’n llwyr trwy’r amser. Yn anffodus cafodd un o’r grŵp ar yr ail ddiwrnod anffawd difrifol, anafwyd ei phigwrn yn wael ar y bambŵ pigfain. Er i’r doctor strapio’r bigwrn doedd dim dewis ganddi ond cario mlaen tan ddiwedd y dydd. Deuddeg awr yn ddiweddarach ar ôl disgyn 1000 medr cyrraeddon Pampa Linda ac yn anffodus diwedd y daith i Josie a chafodd yr anaf. Ffeindiodd hi allan ar ôl cyrraedd adre wythnos yn diweddarach taw torri ei phigwrn oedd hi wedi neud.

O Pampa Linda naethon ni ddilyn llwybr gwaelod y Cwm am orie cyn dechre dringo ‘to i fyny trwy’r goedwig ac 8 awr yn ddiweddarach cyrraedd copa y crib ac eira trwchus lle oedd yr tirlun yn fwy agored wrth i ni ar ddiwedd y dydd gyrraedd Caban Roco a hynny yn ardal a enwodd yn ‘Pase de la Nubes’.

Lle arbennig iawn oedd ‘Pase de la Nubes’ a’r enw yn adlwyrchu’r olygfa “Lle yn y Cymylau”, fan hyn oedd caban Roco a hynny yn eistedd yn y cymylau. Roedd yr olygfa bron yn gynhanesyddol wrth edrych i lawr dros y dyffryn, golygfa o 360 gradd a gwelwn reader anghygoel a rhewlif Frais! Roedd hi’n lledrithiol, yr awyr yn bur a’r sêr yn ddisglair, cyfle prin i weld y “Southern Cross”.

Dechre ein taith lawr y Cwm wedyn ar ôl diwrnodau o ddringo i fyny ac ar draws, a chychwyn y daith lawr tuag at Bariloche. Y coesau yn shigledig a cluniau yn llosgi wrth i’n traed bwrw ar flaen ein sgidie tra yn carlamu lawr trwy trac y fforestydd mwdlyd. Roedd hi’n rwyddach yn ambell i man i fynd yn gloiach i roi llai o straen ar y coeasau blinedig. Disgyn i’r dyffryn trwy’r goedwig, dros glogwyni, trwy gorsydd a bambŵs diddiwedd unwaith yn rhagor, ac eto yn croesi afonydd a rhaeadrau rhewllyd, treiddio trwy fforestydd isdrofannol y Rhewlif Frias, a’n coesau’n gwegian. Yn y diwedd cyrraedd pen y daith, yr afon Frias a’r anhygoel llyn Lago Frias.

Cip olwg byr yw hwn o daith gyffrous, anghygoel, caled a phlesurus, profi golygfeydd gwych o dan amgylchiadau anodd, wrth i ni gymryd at y sialens gyda grŵp o bobol a ddaeth yn ffindie. Pawb yn tynnu at ei gilydd, ac yn helpu’i gilydd amser oedd y amodau yn caledu.

Mae’n anodd cyfleu’r emosiynau mewn geiriau, y cryfder meddwl, peidio rhoi fyny o dan unrhyw amgylchiadau, un nod yn unig, gorffen y trec a chodi’r arian ar gyfer Ysbyty Felindre. Roedd y trec yn un anodd iawn, yn gorfforol a meddyliol, ond yn ddim i gymharu â’r sialens sy’n wynebu dioddeddfwyr cancr yn ddyddiol. Yn flinedig ond yn gynhyrfus, cododd y ddau grŵp a daclodd y sialens dros £500 000 00 ar gyfer yr elusen ffantastig hon. Heb feddwl dwywaith bydden ni’n barod i daclo’r sialens eto, heb os ac oni bai.

Dymuna Rhun a finne ddiolch yn ddiffuant a didwyll i bawb a helpodd mewn unrhyw ffordd bosibl i oresgyn a chwalu ein targed ariannol. Ni fyddai’n bosib heb eich cefnogaeth ac am hyn rydyn ni a Felindre yn ddiolchgar dros ben.