Y Ffeinal i dîm rygbi dan 16 Llanbed

gan Anthea C Jones
Tîm Llanbed dan 16
Tîm Llanbed dan 16

Wel – gêm a hanner! Beth mwy alla i ddweud?  Roedd Tîm dan 16 Llanbed yn wynebu Tymbl yn ffeinal “Plat Sir Gaerfyrddin” dros y Sul. Wedi curo timoedd megis Pontyberem a Llanelli i gyrraedd y ffeinal, roedd y nerfau dal yn rhemp, gan fod Tîm Dan 16 Tymbl eleni wedi cynhyrchu dau chwaraewr rhyngwladol. Roedd y dasg yn argoelu’n un enfawr!

Yn wir yn ystod munudau cynta’r gêm sgoriodd Tymbl gais, oedd yn dorcalonnus i’r chwaraewyr rwy’n siŵr mor gynnar yn y gêm. Yna aeth Tymbl ymlaen i sgorio eto ac eto, tan oedd y sgôr yn 19 i 0! Wel erbyn hyn, rwy’n siŵr bod ambell un wedi anobeithio drwy weld cymaint o wahaniaeth yn y sgôr.

Ond maes o law dechreuodd bechgyn Llanbed ddangos eu cymeriad. Doedd neb yn mynd i dorri eu crib nhw, ac yn wir cyn hir sgoriodd Llanbed eu trosgais cyntaf, gan ddod â’r sgôr i 24 i 7 ar hanner amser.

Erbyn yr ail hanner, newidiodd y gêm yn llwyr gyda Llanbed a’r Tyml yn sgorio sawl cais ar ôl ei gilydd. Trodd y gêm i fod yn un galed a chyfartal iawn a chyn pen dim, roedd y sgôr yn adlewyrchu hyn, 29 yr un.

Ond, yn anffodus, collodd Llanbed dau o’u chwaraewyr allweddol i anaf yn chwarter olaf y gêm a sgoriodd y gwrthwynebwyr ymhellach.

Wrth i’r cloc gyrraedd y deugain, Tymbl oedd ar y brig, ond rhaid dweud bod y bechgyn lleol wedi rhoi gwres eu traed i’r gwrthwynebwyr ac wedi ymderchu ymdrech deg.  Roedd Barry, Dai a Gareth yr hyfforddwyr yn browd iawn o’u llwyddiant. Da iawn chi bois.