Ar dy feic … Her CFfI Sir Gâr

gan Carys Thomas

Yn ystod yr wythnosau diwethaf mae Llysgenhadon a Chadeirydd C.Ff.I. Sir Gâr wedi bod yn brysur yn beicio i godi arian at ddwy elusen.

Criw yr her cyn cychwyn o Lanfynydd

Fel rhan o’n cyfnod fel Llysgenhadon y Sir penderfynodd y pedwar ohonom wneud rhywbeth ychydig yn wahanol i’r arfer er mwyn codi arian yn ystod ein blwyddyn. Felly beth gwell na gosod sialens heriol i ni ein hunain, ac i Gadeirydd y Sir, i feicio o amgylch Sir Gâr?

Prif fwriad y daith oedd ymweld â phob Clwb yn y Sir ynghyd â chodi arian i ddwy elusen sy’n werthfawr iawn i aelodau C.Ff.I. Sir Gâr. Dewiswyd Ambiwlans Awyr Cymru gan fod ardal cefn gwlad ein sir yn ddibynnol iawn ar y gwasanaethau a ddarperir ganddi. Mae’r gwaith a gaiff ei gyflawni, yn enwedig mewn ardaloedd amaethyddol, yn amhrisiadwy. Yr ail elusen a ddewiswyd oedd It’s Time to Talk. Yn ddiweddar, fe gollodd C.Ff.I. Sir Gâr aelod, ac fel mudiad clos roedd hyn yn siom enfawr i ni. Mae cyd-aelodau, ffrindiau a theulu’r aelod yma eisoes wedi codi arian ar gyfer It’s Time to Talk, felly penderfynom ni hefyd i gefnogi’r elusen arbennig hon.

Eirios Thomas, cyn-drefnydd y Sir a chyn-aelod Cwmann, yn ymuno gyda’r daith

Rhannwyd y daith i dri diwrnod gyda 150 o filltiroedd i’w cwblhau ac yn ystod y tridiau croesawyd nifer o aelodau’r Sir i ymuno â ni.  Ar ôl nifer o filltiroedd o ymarfer ar gefn y beics, ar ddydd Sul 26ain o Fawrth yng nghanol pentref Llanfynydd cychwynnodd y daith. Yn ystod y bore fe aeth llwybr y daith â ni heibio clybiau Dyffryn Tywi, San Pedr a Chapel Dewi gan orffen y bore gyda chinio yn yr Emlyn Arms, Llanarthne. I fyny at Landdarog oedd yr her wedi’r egwyl cinio gan arwain ymlaen at glybiau Llannon a Llanelli cyn i ni gwblhau diwrnod cyntaf gyda chlwb San Ishmael yn Llandyfaelog.

Wedi agos i bythefnos o orffwys, ar ddydd Sadwrn 8fed o Ebrill, roedd hi’n amser am y penwythnos mawr gyda dau ddiwrnod o feicio o’n blaenau. Wrth i ni gael croeso cynnes yn y Talardd, Llanllwni cyn cychwyn roeddwn i ar dir cyfarwydd gan wybod mai Cwmann oedd stop cyntaf y dydd.

Criw seiclo dydd Sadwrn yng Nghwmann

Wrth i ni weithio ein ffordd tuag at y pentref cafwyd cwmni ychwanegol wrth i gyn-drefnydd y Sir a chyn-aelod o’r clwb, Eirios Thomas, ymuno gyda’r daith. Ar ôl i Ffion Rees, Llysgenhades y Sir, cael clonc sydyn ar Radio Cymru gydag Ifan Jones Evans ymlaen a’r daith tuag at Ddyffryn Cothi. Roedd gweddill yr ail ddiwrnod yn cynnwys ymweld â chlybiau Llanymddyfri, Llangadog a Llandeilo cyn i ni orffen y diwrnod yn Llandybie.

Anodd oedd ail gychwyn ar gefn y beic y diwrnod canlynol ond dyfalbarhau oedd rhaid gan i ni wybod mai dyma ddiwrnod olaf yr her. Ar ôl paned sydyn i ddechrau’r bore gyda chriw Capel Iwan goresgyn sawl rhiw oedd rhaid gwneud cyn i ni gyrraedd Penybont. Yna ymlaen at sawl rhiw arall i gyrraedd Llanwinio a Llanboidy cyn stopio am ginio yn Hendy-gwyn. Gyda’r diwedd yn agosáu, Sanclêr oedd nesaf ar y daith ac ymlaen at y clwb olaf ond un, Abernant. 

Dathlu gydag ychydig o brosecco ar ôl cwblhau’r her!

Yna, wedi diwrnod o frwydro gyda thirwedd Sir Gâr a dros 150 o filltiroedd ar y cloc, cwblhawyd yr her yng Nghynwyl Elfed. Ar ôl derbyn croeso cynnes iawn gan bawb a ddaeth mas i weld diwedd y daith roedd hi’n angenrheidiol i gael ychydig o brosecco i ddathlu!

Hoffai’r pump ohonom ddiolch yn fawr iawn i bawb a wnaeth ein cefnogi ni yn ystod ein tridiau ar y beics – i’r rhai bu’n darparu cymorth yn ystod y daith, yn ein noddi, yn darparu squash a bisgedi ac wrth gwrs i bawb a ymunodd â ni ar gefn eu beics!

Er bod yr her bellach wedi ei chwblhau rydym dal yn casglu arian felly mae croeso i chi gysylltu gydag unrhyw un o’r Llysgenhadon os ydych chi’n dymuno cyfrannu (Ffion Medi – 07528566329, Hefin – 07931131555, Carys – 07446106223, Ffion Gwen – 07885 837706). Byddwn yn cyhoeddi’r cyfanswm terfynol o arian a godwyd yn Rali’r Sir a gynhelir ar 13eg o Fai ym Maes y Sioe, Nantyci, Caerfyrddin.