Arweinlyfr newydd tref Llanbed

gan Sarah Ward
Arweinlyfr Tref Llanbedr Pont Steffan
Arweinlyfr Tref Llanbedr Pont Steffan

Ymddangosodd Arweinlyfr newydd tref Llanbed yn ddiweddar.  Siambr Fasnach Tref Llanbed sydd tu ôl iddo, gydag is-bwyllgor gwirfoddol o bump yn cydlynu’r cynnwys at ei gilydd a rhedeg y prosiect gyda chefnogaeth y Siambr.

Aelodau’r is bwyllgor yw Gary Thorogood (cadeirydd ar y pryd), Gareth Harries (cadeirydd presennol), Tina Morris (ysgrifenyddes), Sarah Ward, a Meleri Morgan.

Gwybodaeth allweddol i ymwelwyr i’r dref (fel lleoliad toiledau, arosfannau bysys a meysydd parcio) sydd ynddo yn benodol ymysg gwybodaeth am yr amryw o bethau sydd ar gael yn y dref i’w diddanu. I bobl leol mae cynnwys rhifau ffôn busnesau canol y dref yn ddefnyddiol, ac mae gobaith hefyd bod darllen yr erthyglau am asedau’r dref a’r fro yn mynd i annog bobl i werthfawrogi a defnyddio’r cyfleusterau gwych sydd ar gael yma.

Yr is-bwyllgor oedd yn gwahodd pobl allweddol ym myd Llanbed (o ran cyfleusterau busnes neu dwristiaeth) i ysgrifennu erthyglau, a hefyd ni oedd yn casglu gwybodaeth cyswllt yr holl fusnesau yng nghanol y dref. Es i ati i ddylunio a chreu’r mapiau sydd wedi eu cynnwys, a hefyd dylunio edrychiad yr holl arweinlyfr a’i gosod allan. Nid dylunydd graffeg ydw i, ond mae’r gwaith wedi bod yn help i gyflawni un o brif nodau’r siambr – o greu arweinlyfr cyfoes a chynhwysfawr.

Estynnwyd cyfle i aelodau’r Siambr Fasnach i brynu gofod hysbysebu yn yr arweinlyfr, ac fe wnaeth hyn alluogi i 10,000 o gopïau cael eu hargraffu. Mae’r arweinlyfr wedi ei gydlynu a’i ddylunio yn hollol wirfoddol, ac wedi ei dosbarthu o amgylch siopau a busnesau’r dref, y llyfrgell a’r Brifysgol i’w gasglu am ddim.

Os oes busnesau ar gyrion y dref a hoffai gopïau i darparu i’w cwsmeriaid (yn enwedig atyniadau twristiaeth, Gwely a Brecwast a.y.y.b), croeso iddyn nhw gysylltu ag ysgrifenyddes y Siambr Fasnach i ofyn am bwndel i’w dosbarthu.