Bro’r Dderi – Rali a mwy

Lowri Pugh-Davies
gan Lowri Pugh-Davies

Mae’n rhaid dechrau ar nodyn o longyfarch Tregaron a’r sir ar gynal rali wych. Dwi’n siwr fod pawb yn gytûn iddi fod yn ddiwrnod hwylus a llwyddianus.

Naeth ein clwb gystadlu mewn amrywiaeth o gystadleuthau, gyda phob aelod yn cael y cyfle i gymryd rhan.  Naethom gystadlu yn Barnu stoc, crefft, Gosod blodau, Trin Gwlân, Cneifio, Gêm yr oesoedd, Coginio, Dylunio kit chwaraeon newydd, gwisgo i fyny ac arddangosfa y prif gylch.  Rhaid llongyfarch pawb ar gystadlu a chymryd rhan.

Llongyfarchiadau mawr i Elliw Dafydd o’r clwb gafodd cyntaf yn gosod blodau ac sydd felly yn mynd ymlaen i’r sioe frenhinol; pob lwc i ti yno! Cafodd y clwb yr ail wobr am ein arddangosfa prif gylch a naeth Matt a Iestyn dderbyn y trydydd safle yng nghystadleuaeth gêm yr oesoedd. Fe dderbynion ni amrywiaeth o wobrau eraill yn ystod y dydd, felly da iawn bawb.

Llongyfarchiadau i rai o’n haelodau ifanc hefyd a fu’n DJs i noson y rali yn fferm Caebwd – roeddem yn browd iawn ohonoch ac fe wnaethoch set dda.

Ar ôl rali a noson lwyddianus naeth rhai o’n haelodau fynychu gymanfa’r rali a rhaid llongyfarch y sir a Thregaron unwaith yn rhagor ar gynnal noson hwylus dros ben lle roedd yn braf dathlu rali llwyddianus a’r sir yn dod at ei gilydd.

Roedd yn braf i rhai o’n haelodau ar ddiwrnod y rali fod yn rhan o gyflwyno siec sylweddol i’r beiciau gwaed yn dilyn digwyddiad sialens y cadeirydd. Llongyfarchiadau unwiath yn rhagor i bawb gymrodd ran a chodi cymaint o arian at achos da.

Llongyfarchiadau i Felinfach ar ennill y rali ac rydym yn edrych ymlaen yn barod i 2018 a chael y rali dafliad carreg o’n clwb. Da iawn chi. Braf cael y rali yn symud o gwmpas y sir ac yn ymweld ag ardaloedd newydd.

Wedi’r rali cafodd pawb hoe fach cyn mynd ymlaen i’r digwyddiad nesaf o fewn y sir sef Rygbi 7 bob ochr. Noson llawn sbort a gweithio fel tîm. Llongyfarchiadau mawr i’n tîm merched a bechhgyn a ddaeth i’r brig yn y gystadleuaeth a phob lwc i ddau o fechgyn ein clwb a gafodd eu dewis i fynd i rownd nesaf o ymarferion y sir erbyn y sioe frenhinol.