Busnes a’r Gymraeg yn Llambed

Steff Rees (Cered)
gan Steff Rees (Cered)

Ar brynhawn dydd Mercher, Hydref 18fed fe fydd Cered: Menter Iaith Ceredigion yn cynnal gweithdy ar ôl gwaith i rannu arfer da o hybu defnydd o’r Gymraeg ym myd busnes Llambed a’r cyffiniau.

Pwrpas y gweithdy yw i ddod â phobl busnes y dref at ei gilydd er mwyn trafod y Gymraeg, rhannu arfer da ac i gynnig syniadau sut i fynd ati i wella defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle.

Mae’r gweithdy yn rhan o gynllun Pwerdy Iaith Llambed a gafodd ei lansio yn ystod yr haf. Nod y cynllun yw creu asesiad trylwyr o sefyllfa’r Gymraeg ar lawr gwlad er mwyn creu cynllun cymunedol i hybu a datblygu’r iaith. Mae yna ddau sesiwn wedi bod eisoes gan drafod y ddarpariaeth blynyddoedd cynnar a’r bwrlwm cymdeithasol a diwylliannol lleol.

Yn ystod y mis diwethaf mae Cered wedi apwyntio dau Swyddog Busnes newydd er mwyn cefnogi busnesau i ddatblygu eu gwasanaeth dwyieithog. Un o drigolion Pencarreg, Pat Jones yw un o’r swyddogion yma a hi fydd yn gweithio gyda busnesau Llambed a’r cylch. Mi fydd Pat a Steffan Rees, Swyddog Datblygu Cymunedol Cered yn arwain y gweithdy.

Bydd y digwyddiad yn cymryd lle yng Nghaffi Artisans rhwng 5.30 a 7.00 y.h. felly dewch draw i drafod a rhwydweithio. Fe fydd te a choffi yn cael ei ddarparu.

Os hoffech fynychu neu dderbyn mwy o wybodaeth cysylltwch gyda Steffan ar 01545 572 350 neu steffan.rees@ceredigion.gov.uk.