Caryl yn rhoi darlith i gofio Islwyn

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

‘Natur y Gair’ fydd testun un o awduron mwyaf poblogaidd Cymru

Un o awduron mwya’ poblogaidd Cymru heddiw fydd yn rhoi darlith flynyddol i gofio am y mwya’ poblogaidd erioed.

Fe fydd Caryl Lewis yn agos at ei gwreiddiau mewn mwy nag un ffordd wrth roi Darlith Goffa Islwyn Ffowc Elis dan adain Gŵyl Golwg.

Fe fydd awdures Martha, Jac a Sianco yn ôl yn agos at ei chartre’ yng nghanolbarth Ceredigion ac yn siarad am un o’r prif elfennau sydd wedi ei hysbrydoli – byd natur.

Mae’r ddarlith yn cael ei chynnal yn Llanbedr Pont Steffan, nos Iau 26 Hydref – y bumed darlith i gofio am un o drigolion enwoca’r dre’, Islwyn Ffowc Elis.

Natur y Gair

Tra bod Caryl Lewis wedi ennill Gwobr Llyfr y Flwyddyn gyda Martha, Jac a Sianco a gwerthu’n well nag unrhyw nofel yn y ganrif hon, nofel Islwyn Ffowc, Cysgod y Cryman, sydd wedi ei dewis yn llyfr mwya’ poblogaidd yr ugeinfed ganrif a hi yw un o’r gwerthwyr gorau erioed yn Gymraeg.

Caryl Lewis
(Llun: Golwg360)

Teitl y ddarlith fydd “Natur y Gair – Golwg ar lenyddiaeth natur a natur llenyddiaeth” ac fe fydd Caryl Lewis yn trafod yr hyn sydd wedi ei hysbrydoli hi ac awduron eraill.

“Mi fyddai Islwyn wrth ei fodd o wybod bod Caryl yn rhoi sgwrs yn ei enw,” meddai Dylan Iorwerth, Golygydd Gyfarwyddwr Golwg.

“Mae’r ddau fel ei gilydd wedi defnyddio byd natur a disgrifiadau o’r wlad i greu awyrgylch a chreu teimlad yn eu nofelau.”

Mae ei chasgliad ddiweddara’ o straeon byrion, Y Gwreiddyn, wedi cyrraedd rhestr fer Llyfr y Flwyddyn eleni.

Y ddarlith…

  • Darlith Goffa Islwyn Ffowc Elis gyda Caryl Lewis, Festri Capel Brondeifi, Llanbedr Pont Steffan, nos Iau, 26 Hydref, 7.30.
  • Tocynnau £3 o Siop y Smotyn Du, Llanbed, a Swyddfa Golwg (01570 423529)