‘Cefnogi’n gilydd’ drwy ganser

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360
Steven a Jane Holmes o Ffarmers

Gwasanaeth arbennig, Ennyd Gobaith, yn dod i Lanbed 

Mae gŵr o Ffarmers wrthi’n trefnu gwasanaeth arbennig yn Llanbed ddydd Sul (Hydref 22) i gynnig cymorth i bobol sydd wedi’u heffeithio gan ganser. 

Dyma fydd y tro cyntaf i’r gwasanaeth Ennyd Gobaith (Pause for Hope) ymweld â Chymru, ac mi gafodd yr elusen ei sefydlu yn ardal Lerpwl yn 1999. 

Bwriad sylfaenydd yr elusen, yr Athro Raymund Donnelly, yw cynorthwyo pobol sydd wedi’u heffeithio gan ganser drwy gynnal gwasanaeth sy’n gwahodd pobol o wahanol enwadau, neu rai nad sydd fel arfer yn troi at grefydd. 

Cymunedau gwledig 

Mae Steven Holmes, sy’n wreiddiol o Belffast, wedi penderfynu gwahodd yr elusen i Lanbed er mwyn “diolch i’r gymuned.” 

Tair blynedd yn ôl mi gafodd ei wraig, Jane, ddiagnosis o ganser yr ysgyfaint ac erbyn hyn mae’n parhau i gryfhau a gwella. 

Mi gafodd Steven ei “syfrdanu” gan gefnogaeth y gymuned, meddai, ac am hynny mae am gynnal y gwasanaeth, Ennyd Gobaith. 

“Roedd diagnosis Jane yn sioc lwyr inni achos doedd hi erioed wedi ysmygu a dim ond 43 oed oedd hi ar y pryd.” 

“Doedd ganddi ddim symptomau ac roedd hi’n rhedwr brwd,” meddai Steven sy’n aelod o glwb rhedeg Sarn Helen. 

“Mae gorllewin Cymru’n debyg iawn i Ogledd Iwerddon, achos mae bywyd y teulu a’r gymuned yn bwysig iawn, ac mae’n bwysig inni ddangos cefnogaeth i’n gilydd mewn cymuned wledig fel hon,” meddai. 

Jane – Marathon Eryri

Marathon Eryri 

Mae Steven a Jane yn rhedwyr brwd a chyn diwedd mis Hydref mi fydd Jane yn cystadlu ym Marathon Eryri. 

Mi wnaeth hi gystadlu yn 2015 hefyd – pedwar mis yn unig ar ôl cael llawdriniaeth ar ei hysgyfaint – gan gwblhau’r ras mewn 6 awr a 10 munud. 

“Mae hynna’n dangos dycnwch ei chymeriad a’i hagwedd gadarnhaol,” meddai Steven am ei wraig. 

Eglwys San Pedr, Llanbed

 

  • Mae’r gwasanaeth Ennyd Gobaith yn cael ei gynnal yn Eglwys San Pedr, Hydref 22, am 2 o’r gloch y prynhawn.