Cipio tlysau’r llwyfan a’r gwaith cartref
Llanwenog oedd enillwyr Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Ceredigion – unwaith eto.
Fe enillon nhw o 29 o bwyntiau gan gipio’r tlysau am y clwb gorau ar y llwyfan ac yn y gwaith cartref.
Felinfach oedd yn ail, gan ychwanegu at eu llwyddiant yn y Rali eleni, a Phontsian yn drydydd, ddeg pwynt arall yn ôl.
Roedd llawer o’r cystadlaethau “o safon cenedlaethol yn rhwydd”, meddai’r beirniad cerdd, Gareth Wyn Thomas – “r’ych chi’n hynod o gyfoethog fel sir”.
Y Gadair i Lanwenog
Fe aeth y Gadair hefyd i Lanwenog, gyda Luned Mair o Alltyblaca’n ennill y wobr am y pedwerydd tro.
Yn ôl y beirniad, Huw Meirion Edwards, roedd hi’n storïwr o fardd ac wedi sgrifennu cerdd “ardderchog” ar y testun trysor.
Roedd aelodau o ardal Clonc yn rhan o’r côr buddugol hefyd, Côr Pontsian, ac fe fydd rhagor yn ymuno â nhw yn Eisteddfod Genedlaethol y mudiad yn Llandudno pan fydd côr ar y cyd yn cynrychioli’r sir gyfan.
Yr enillwyr
Dyma’r enillwyr o ardal Clonc:
Llwyfan
Unawd Alaw Werin 26 neu iau: 3, Elin Haf Jones, Llanwenog
Meimio i Gerddoriaeth 26 neu iau: 3, Llanwenog
Deuawd/triawd/pedwarawd Cerdd Dant: 2, Llanwenog
Cân Gyfoes: 2, Llanwenog
Unawd 13 neu iau: 3, Ffion Davies, Llanwenog
Unawd 16 neu iau: Carys Evans, Llanwenog
Llefaru 16 neu iau: 2, Hanna Davies, Llanwenog
Llefaru 21 neu iau: 2, Meleri Davies, Llanwenog; 3, Briallt Williams, Llanwenog
Llefaru 26 neu iau: 2, Elin Haf Jones, Llanwenog; 3, Luned Mair, Llanwenog
Canu Emyn Nofis: 2, Sioned Fflur Davies, Llanwenog; 3, Hanna Davies, Llanwenog
Ensemble Lleisiol: 1, Llanwenog
Parti Llefaru: 1, Llanwenog
Sgets: 3, Pontsian (yn cynnwys aelodau lleol)
Parti Deusain: 2, Llanwenog
Deuawd neu Driawd Doniol: 2, Pontsian (yn cynnwys Endaf Griffiths, Cwrtnewydd)
Côr Cymysg: 1, Pontsian (yn cynnwys aelodau lleol)
Gwaith Cartref
Cerdd 26 neu iau: 1, Luned Mair, Llanwenog; 3, Twm Ebbsworth, Llanwenog
Rhyddiaith 26 neu iau: 3, Twm Ebbsworth, Llanwenog; 3, Luned Mair, Llanwenog
Drama 26 neu iau: 1, Luned Mair, Llanwenog; 3, Twm Ebbsworth, Llanwenog
Unrhyw gyfrwng 26 neu iau: 3, Elin Haf Jones, Llanwenog; 3, Luned Mair, Llanwenog
Unrhyw gyfrwng 21 neu iau: 1, Meinir Davies, Llanwenog; cydradd 3, Beca Jenkins (Cwmsychbant) Pontsian
Blog 16 neu iau: 3, Carys Evans, Llanwenog; 3, Hanna Davies, Llanwenog
Brawddeg: 1, Elin Haf Jones, Llanwenog; Teleri Evans, Pontsian; 3, Elliw Dafydd, Bro’r Dderi
Cyfansoddi sgets: 1, Twm Ebbsworth, Llanwenog
Ffotograffiaeth: 1, Carwyn Davies, Llanwenog;
Limrig: 2, Elin Haf Jones, Llanwenog; 3, Meinir Davies, Llanwenog
Celf: 2, Carwyn Davies, Llanwenog; 3, Meinir Davies, Llanwenog
Cyfansoddi Cân: 1, Elin Davies, Llanwenog;
Llyfr Lloffion: 1, Llanwenog; 2, Pontsian
Llyfr Cofnodion: 2, Llanwenog; 3, Pontsian
Llyfr Trysorydd: 1, Llanwenog