Cofio Cymro yn China

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Cenhadwr o ardal Clonc yn dal i ddenu parch

Mae Cymro o bentre’ bach yn ardal Clonc yn cael ei gofio mewn dinasoedd anferth bron chwe mil o filltiroedd i ffwrdd.

Wrth ffilmio rhaglen am y cenhadwr o Ffaldybrenin ger Llanbed, fe ddaeth criw teledu o hyd i luniau a cherfluniau sy’n dangos bod Timothy Richard yn cael ei anrhydeddu bron ganrif ers ei farwolaeth.

Mae’n cael y clod am sefydlu Prifysgol fodern gynta’ China, am osod gwreiddiau ar gyfer addysg feddygol ac am ei waith yn arwain un o’r ymgyrchoedd rhyngwladol cynta’ i ymladd newyn.

“Doedden ni ddim wedi disgwyl llawer o sôn am Timothy Richard,” meddai’r cyflwynydd Dylan Iorwerth o Lanwnnen. “Yn enwedig o gofio cymaint sydd wedi digwydd yn ers dyddiau’r cenhadwr ac o gofio gwrthwynebiad y Comiwnyddion i grefydd.

“Mewn gwirionedd, mae yna ddiddordeb mawr yn ei waith ac mae pobol yn cydnabod ei fod wedi gwneud lles mawr.”

Cofio cenhadwr

Roedd Dylan Iorwerth yn rhan o dîm y cwmni teledu Unigryw o Dalybont a oedd yn ffilmio’r ddiweddara’ mewn cyfres newydd o Dylan ar Daith a fydd i’w gweld ar S4C yn yr hydref. Fe ddaethon nhw yn ôl yr wythnos hon.

“Mewn prifysgol mewn dinas o’r enw T’ai-yuan, lle mae tua 4.5 miliwn o bobl, roedd yna falchder gwirioneddol mai Timothy Richard oedd sylfaenydd y Brifysgol lle mae tuag 20,000 o fyfyrwyr.”

Roedd Timothy Richard wedi mynd i China yn 1870 ac wedi dod i’r amlwg yn trefnu ymgyrch yn erbyn newyn dychrynllyd; ar ôl hynny, roedd wedi dangos awydd mawr i gydweithio gyda chrefyddau eraill ac wedyn i geisio moderneiddio China.

“Mae’r brifysgol wedi meddwl am un ffordd fach wreiddiol iawn o gofio’r Cymro … ond mi fydd rhaid aros tan y rhaglen i ddangos hynny,” meddai Dylan Iorwerth.