Cwrs y Cardi – Seiclo’r 75

gan Elliw Dafydd

Dydd Sadwrn yr 8fed o Ebrill. Dyddiad sydd wedi’i selio yn fy meddwl ers misoedd am resymau amrywiol … cynnwrf, ofn, cyffro a nerfusrwydd!

Mae eleni’n nodi carreg filltir bwysig iawn yn hanes Clybiau Ffermwyr Ifanc Ceredigion, tri chwarter canrif o fodolaeth! Ac er mwyn dathlu, penderfynodd Swyddogion y Sir 2016-17 osod sialens i’r aelodau i seiclo milltir am bob blwyddyn o’r C.Ff.I. yng Ngheredigion. Yn ogystal â chodi arian i’r Sir, pa well elusen i godi arian ac ymwybyddiaeth amdani, ond elusen y Beiciau Gwaed.

Rhannwyd y clybiau i dri grŵp i gwblhau tair taith wahanol, tua 25 milltir o hyd. Un yn dechrau o Dal-y-bont, un arall o Dregaron, a chlybiau’r de yn seiclo o Aberteifi gan gwrdd yn Aberaeron.

Pleser oedd gweld cymaint yn ymroi i’r dasg ac yn ymarfer ffwl pelt! Tasg yn ei hun, oedd chwilio beic! Ar ôl cael bargenion yn Cycle Mart, sawl ‘post’ ar facebook, a chwythu llwch y blynyddoedd segur i ffwrdd o’r beic oedd yng nghefn y garej, fe lwyddodd 132 o aelodau a ffrindiau’r mudiad gael gafael ar fyddin o feiciau!

Os oeddech chi’n dilyn #cwrsycardi ar y trydar, byddech wedi clywed nifer o hanesion y paratoadau. Fy ffefryn i oedd gweld beic un pedal, Bethan Roberts wedi i’r llall fynd ar streic a chwympo i ffwrdd!

Daeth y diwrnod, gyda rhai yn amlwg yn fwy profiadol na’i gilydd, yn eu lycra a’u gadgets technolegol ac eraill yn checko’r clip ar eu helmed. Ond wedi i bawb gael crysau glas i fatchio, roedd tair afon las yn ymlwybro i Aberaeron.

Cafwyd diwrnod arbennig dydd Sadwrn gyda phawb yn llwyddo i gwblhau’r sialens. Braf oedd gweld rhai o wirfoddolwyr y Beiciau Gwaed yn ymuno gyda ni. Diolch o galon am eu cefnogaeth.

Profiad bythgofiadwy oedd seiclo o amgylch Aberaeron wedi i’r dair taith gwrdd a chymaint o gefnogwyr allan ar hyd y strydoedd. Golygfa well na’r Tour De France!

Pan gyrhaeddom Glwb Rygbi Aberaeron, aethom ati i osod y ffensys ar gyfer y rasys defaid. Ac, o ie, rasys defaid go iawn! Cafwyd 8 ras wahanol a rhai’n betio ar bob ras. Roedd gweld aelodau’n trio annog y defaid i redeg o un pen i’r llall yn bictiwr a hanner! Noson ragorol i goroni diwrnod penigamp!

Ac oedd, roedd sawl penglin poenus, coes stiff a phen-ôl tost dydd Sul! Ond dyma’r Mudiad ar ei orau. Cydweithio rhwng gwahanol glybiau, creu atgofion newydd a ffrindiau oes!

Hoffem ddiolch i bawb oedd wedi rhoi o’u amser, arian ac amynedd i wneud y diwrnod yn un llwyddiannus iawn a gobeithio bydd swm parchus iawn gennym fel Mudiad i gyflwyno i’r Beiciau Gwaed.

Os ydych eisiau cyfrannu i’r achos, cysylltwch â’r swyddfa ar 01570 471444. Buasem yn hynod ddiolchgar.