Cwrw yn llifo yn nhrydedd Gŵyl Gwrw a Seidr Llambed

gan Rob Phillips

Mae Gŵyl Gwrw a Seidr Llambed bellach yn ei thrydedd blwyddyn, ac yn mynd o nerth i nerth. Cynhaliwyd yr ŵyl eleni ar ddydd Sadwrn 18fed Chwefror yn Neuadd y Celfyddydau, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Roedd aelodau Ford Gron Llambed wedi bod yn brysur ers wythnosau yn paratoi – archebu cwrw, trefnu adloniant ac yn hyrwyddo, felly pan agorwyd y drysau am hanner dydd, roedd popeth yn barod.

Roedd 23 cwrw a 9 seidr gwahanol o bob cwr o Gymru ar gael – o Ben Llŷn i Sir Fynwy, a llwyddodd y cwsmeriaid i yfed dros 2,300 peint! Pa ffordd well sydd o godi arian?!

Yn ychwanegol i’r cwrw a seidr, roedd adloniant – 3 band byw, blwch ffotograffau diolch i’r Stiwdio Brint a chystadleuaeth dartiau diolch i Bishop of Bedlam.

Nod yr ŵyl yw hyrwyddo cwrw a seidr Cymreig, codi arian i achosion da a chynnig ychydig o hwyl yn y dref ar adeg oer a gwlyb. Hosbis Tŷ Hafan oedd yr elusen eleni – aeth rhai aelodau o’r Ford Gron i weld y gwaith anhygoel sy’n cael ei wneud gan Dŷ Hafan ychydig o fisoedd yn ôl, ac mae un aelod yn mynd allan i China fel rhan o dîm i cerdded y Mur Mawr. Roedden ni’n falch iawn i gael Shelly Kirkham o Dŷ Hafan yn yr ŵyl ar y dydd.

Diolch i’r Maer, Dave Smith, am agor yr ŵyl trwy yfed y peint cyntaf ar y llwyfan, a diolch yn fawr i bawb a ddaeth i’n cefnogi. Bydd yr ŵyl yn ôl flwyddyn nesaf ac rydym yn croesawu awgrymiadau am gwrw a seidr i’w gwerthu.