Cymanfa Ddathlu 300 Williams Pantycelyn

Delyth Phillips
gan Delyth Phillips

Daw rhai o’r syniadau gorau o ganlyniad i sgwrs rhwng ffrindiau dros baned. Rhywbeth fel’ny oedd hi pan gafwyd y syniad o gynnal digwyddiad yn nhref Llanbed i nodi 300 mlynedd oddi ar geni’r emynydd mwyaf a welodd Cymru erioed, William Williams, Pantycelyn.

Wrth sgwrsio ar aelwyd Densil ac Ann Morgan cyn y Nadolig, gwelwyd yr angen ar i ni fel Cristnogion Cymraeg drefnu rhywbeth yn y dref i nodi’r achlysur. A phenderfynwyd gwneud hynny’n blwyfol ac yn lleol – gan fanteisio ar y doniau sydd yn y fro. Brethyn cartref o ddathliad fydd y Gymanfa hon felly, ac mae croeso i bawb wrth gwrs, o bell ac agos, i fwynhau gyda ni.

Cynhelir y Gymanfa nos Sul, 12 Chwefror, am 6 o’r gloch yng nghapel Shiloh. Twynog Davies fydd yn arwain, ac Eurwen Davies wrth yr organ – dau enw cwbwl gyfarwydd i bawb yn y cylch, ac i fyd y gymanfa. Bydd Densil Morgan yn dweud gair am yr emynydd – gan dynnu ar ei stôr o wybodaeth yn paratoi’r rhagymadrodd i’r gyfrol Williams Pantycelyn.

Byddwn yn cael cefnogaeth a chyfraniadau gan dri chôr lleol – Côr Corisma, Côr Meibion Cwmann a Chôr Lleisiau’r Werin, a diolch iddynt am eu hamser.

Bydd cwmni Parrog yn recordio’r Gymanfa ar gyfer Caniadaeth y Cysegr.

Does dim tâl mynediad, ond bydd casgliad ar gyfer yr elusen Cymorth Cristnogol.

Felly, dewch yn llu i forio canu rhai o emynau mwyaf cyfarwydd Pantycelyn, a rhai o emynau gorau’r genedl.