Cynorthwyydd Dysgu a fu bron saethu ei thad!

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
Rhian
Rhian

Rhian Thomas o Lambed sy’n ateb cwestiynau Papur Bro Clonc y mis hwn.  Ydych chi wedi prynu copi eto?

Mae Rhian yn Gynorthwyydd Dysgu yn Ysgol Bro Pedr, ond yn datgelu llawer o gyfrinachau yn rhifyn cyfredol Clonc.

Ble oedd y lle mwyaf annisgwyl iddi ddihuno yn y bore? Sut fyddai hi’n gwario £10,000 mewn awr?  Beth oedd yr eiliad a newidiodd ei bywyd?

Do, bu bron iddi saethu ei thad gyda ‘pellet gun’ unwaith, ond gallwch ddarganfod llawer mwy amdani wrth ddarllen colofn ‘Cadwyn Cyfrinachau’ yn y papur bro mis Mehefin.

Mae ei diddordeb hi’n ymestyn o hoci i rygbi ac mae’n aelod gweithgar o Glwb Ffermwyr Ifanc Cwmann.