Dathlu corffoli Eglwys Aberduar 275

gan Jill Tomos
Aberduar 275

Cafwyd amser hapus iawn yng nghapel Aberduar ddydd Sul 17 o Fedi 2017 gan ein bod wedi bod yn dathlu 275 o flynyddoedd ers corffoli yr eglwys, gyda’r capel yn llawn yn y prynhawn ac am chwech yr hwyr.

Cynhaliwyd oedfa’r dathlu am ddau y prynhawn gyda’r Parchg Jill Tomos, gweinidog presennol yr eglwys, yn llywyddu. Cyflwynwyd y rhannau arweiniol gan Dewi Davies, Glanafon yn darllen o’r ysgrythur a gweddi gan Hannilia Court. Ar ôl i Jill groesawu pawb,  bu yn sôn am sefydlu eglwys Aberduar ac yna mynd ymlaen i gyflwyno pump o weinidogion sydd â chysylltiad agos iawn ag Aberduar. Y ddau cyntaf oedd y Parchedigion Eirian Lewis ac Aled Davies, dau o blant yr eglwys sydd wedi mynd i’r weinidogaeth, Eirian yn gwasanaethu yn Sir Benfro ac Aled yn ardal Llŷn ac Eifionydd. Yna, y Parchg Owain Llyr Evans sydd yn weinidog yng Nghaerdydd, mab un o gyn-weinidogion Aberduar, y diweddar Byron Evans. Cafwyd hefyd atgofion dau o gyn-weinidogion Aberduar, y Parchg Olaf Davies sydd yn byw yn Sir Fôn ac yn weinidog ym Mangor a’r Parchg Wynn Vittle sydd wedi ymddeol erbyn hyn ond sydd yn dal i bregethu ar y Sul. Bu’r pump yn sôn am eu cysylltiadau ag Aberduar ac am amserau llon a lleddf. Fe wnaeth y gynulleidfa fwynhau eu sylwadau yn fawr iawn, awr a hanner i’w gofio am byth. Ar ddiwedd yr oedfa fe wnaeth y Parchg Jill Tomos ddiolch yn gynnes iawn i bawb am eu cyfraniad  tuag at lwyddiant y dathlu.

Rhwng y ddwy oedfa cafwyd te ardderchog wedi ei baratoi yn y festri gan y chwiorydd ac hefyd bu Dewi Davies, Glynteg yn arddangos lluniau o ddigwyddiadau yn Aberduar dros y pedwar ugain mlynedd diwethaf.

Cafwyd casgliad tuag at Cymorth Cristnogol yn ystod yr oedfa. Ar ddiwedd yr oedfa torrwyd cacen y dathlu gan Eluned Lewis, aelod hyna Aberduar. Y gacen wedi ei gwneud ac yn rhodd gan Vicky Davies, Pistyllgwyn.

Am chwech yr hwyr, cynhaliwyd Cymanfa Ganu gyda’r brawd Emlyn Davies yn arwain a Rhiannon Lewis wrth yr organ gyda Cerys Lloyd yn llywyddu. Cafwyd darlleniad gan Lowri Gregson a gweddi gan Arwel Jenkins ar ddechrau’r gymanfa. Yn cymryd rhan bu plant Ysgol Gynradd Llanybydder, Côr Lleisiau’r Werin a Chôr Meibion Cwmann gyda Elonwy Davies yn eu harwain a Ceinwen Evans a Elonwy Huysmans yn cyfeilio. Cafwyd hefyd unawdau gan Manon Mai.

Bu’n gymanfa hwyliog ac ysbrydoledig dros ben. Diolch i Emlyn, Rhiannon a Cerys, y corau, Manon, i’r plant i gyd ac i’r gynulleidfa luosog am wneud y noson yn gymaint llwyddiant. Edrychwn ymlaen i glywed y gymanfa ar Radio Cymru.