Dewch i Siopa ’Dolig yn Llanbed!

gan Sarah Ward

Wrth i Dachwedd ddod i ben mae’n amhosib osgoi’r cyffro sy’n cynyddu am y Nadolig, felly mae’n da bryd sôn am ddau o ddigwyddiadau pwysig siopa tref Llanbed – y FiverFest gan Totally Locally Llambed sy’n dechrau ar y cyntaf o Ragfyr, a noson Ffair Nadolig y dref ar y 7fed o Ragfyr.

Yn dilyn poblogrwydd y FiverFest cyntaf pan lawnsiwyd Totally Locally ym mis Gorffennaf eleni, mae llawer o siopau’r dref wedi penderfynu defnyddio’r ymgyrch marchnata lleol yn eu siopau unwaith eto i ddenu cwsmeriaeth tymhorol trwy hysbysebu cynnig arbennig am gyfnod o bythefnos (1af o Ragfyr tan y 14eg) am ’mond pum punt! Mae rhestr rhai o’r cynigion wedi ei argraffu yn rhifyn diweddaraf y Grapevine, gyda chynigion pellach yn ymddangos ar y dudalen Facebook – www.facebook.com/totallylocallyllambed – o nawr tan i benwythnos y FiverFest orffen ar y 14eg o Ragfyr.

Mae Totally Locally Llambed yn sefydliad cymunedol sydd wedi dewis gweithio’n wirfoddol i greu deunydd marchnata er lles siopau lleol, i annog preswylwyr ardal Llanbed i gefnogi busnesau annibynnol y dref a chefnogi’r rhain sydd yn darparu nwyddau a gwasanaethau yn lleol – yn enwedig dros ŵyl y Nadolig!

Bydd cyfle gwych i siopa lleol ar nos Iau y 7fed o Ragfyr, pan fydd Ffair Nadolig y dref ar Stryd Fawr Llanbed o 5.00yh tan bo’r stryd yn ail-agor am 8.00yh.

Yn ogystal â rhai o siopau’r dref yn agor yn hwyr, bydd Marchnad y Bobl yno yn gwerthu cynnyrch lleol ochr yn ochr â stondinau crefft. Bydd hefyd adloniant Nadoligaidd gan Gôr Cwmann a nifer o ysgolion yr ardal, beirniadu y ffenest siop wedi ei addurno orau, ac ymweliad gan Siôn Corn gydag anrheg am ddim i bob plentyn!

Dewch ynghyd ar nos Iau i wrando ar ganu swynol, bwyta danteithion Nadoligaidd a joio naws y gymuned tra’n siopa’r holl nwyddau sydd ar gael yn lleol!