Diwrnod Hwyl Llanllwni 2017

Annwen Evans
gan Annwen Evans
Ifor Jones ar ran y CFfI ac Annwen Evans ar ran y CRA yn rhoi plat i’r llywyddion.
Ifor Jones ar ran y CFfI ac Annwen Evans ar ran y CRA yn rhoi plat i’r llywyddion.

Ar brynhawn Sadwrn 8fed o Orffennaf cynhaliwyd Diwrnod Hwyl Llanllwni a oedd yn cael ei drefnu ar y cyd rhwyng yr Ysgol, Cylch Meithrin a’r Clwb Ffermwyr Ifanc.

Braf oedd cael trefnu gweithgaredd gymunedol a chydweithio gyda gwahanol bobol o’r mudiadau ac ar ddiwedd y dydd gwnaed elw o £2931.07. Bydd y swm yma yn cael ei rannu rhwng y 3 sefydliad a chyfraniad i’r clwb ar ôl Ysgol.

Tegwen
Tegwen

Cafodd y diwrnod ei gynnal yng Nghae Chwarae’r Pentref. Llywyddion y dydd oedd Mr a Mrs Roy Thomas. Dyma Ifor Jones ar ran y CFfI ac Annwen Evans ar ran y CRA yn rhoi plat i’r llywyddion.  Cafwyd amser wrth eu boddau yn beirniadu’r gystadleuaeth gwisg ffansi.

Cafwyd cwpan am y plentyn / person â’r wisg ffansi orau o fewn pob categori ac yn dod i’r brig oedd Tegwen a oedd wedi gwisgo fel Miss Mefus. Diolch yn fawr i Mr Sion Harris am noddi’r cwpan yma.

Tîm buddigol Tynnu’r Gelyn
Tîm buddigol Tynnu’r Gelyn

Roedd y diwrnod yn un llwyddiannus a hoffai Pwyllgor Cymdeithas Rhieni ac Athrawon yr Ysgol, Pwyllgor y Cylch Meithrin a’r Clwb Ffermwyr Ifanc ddiolch i bawb a gyfrannodd mewn unrhyw ffordd at lwyddiant y dydd.