Eisteddfod lwyddiannus arall yng Nghapel y Groes

Nia Wyn Davies
gan Nia Wyn Davies
Cyfyngedig 8 oed tan oed gadael ysgol gynradd

Yn draddodiadol ar ddydd Mercher sy’n dilyn y Pasg cynhelir Eisteddfod Gadeiriol Capel y Groes, Llanwnnen. Doedd eleni ddim yn eithriad pan gynhaliwyd Eisteddfod safonol iawn gyda bron 12 awr o gystadlu di-dor yn ystod y dydd. 

Beiriniad y dydd oedd: Cerdd – Rhiannon Lewis, Cenarth. Llên a Llefaru – Beti Griffiths, Llanilar. Celf – Aled a Heledd Dafis, Caerwedros.  Y cyfeilydd eleni eto oedd Lynne James, o Gastell Newydd Emlyn.

Cadeirydd yr Eisteddfod sef Manon Richards gyflwynodd Llywydd yr Eisteddfod sef Elin Jones, Newlands, Heol Ogwr, Ogwr. Mae Elin wedi symud o’r ardal ers bron i hanner can mlynedd, ond mae’n parhau yn aelod yng Nghapel y Groes.  Cafwyd ganddi araith bwrpasol a rhodd hael iawn tuag at yr achos.  Cyflwynodd Manon fasged hardd o flodau yn rhodd i Elin ar ran pwyllgor yr Eisteddfod.

Dyma enwau enillwyr y dydd:

Cyfyngedig 

Canu dan 8 oed – Fflur Morgan, Drefach. Adrodd dan 8 oed – Tirion Tomos, Pencarreg. Canu 8 oed tan gadael ysgol gynradd – Ifan Meredith, Llanbed. Adrodd 8 oed tan gadael ysgol gynradd – Swyn Tomos, Pencarreg.

Agored

Delun Ebenezer o Gellan

Unawd ac Adrodd dan 6 oed – Delun Ebenezer, Cellan. Unawd ac Adrodd 6 – 8 oed – Ela Mablen Griffiths-Jones, Cwrtnewydd. Unawd ac Adrodd 8 – 10 oed – Peredur Llywelyn, Llandysul. Unawd 10 – 12 oed – Zara Evans, Tregaron. Adrodd 10 – 12 oed – Glesni Morris, Llangwyryfon. Canu Emyn dan 12 – Alwena Owen, Llanllwni. Parti Canu i Ysgolion Cynradd neu Ysgolion Sul – Ysgol Cwrtnewydd. Parti Cydadrodd i Ysgolion Cynradd neu Ysgolion Sul – Ysgol Bro Pedr. Unawd ar unrhyw Offeryn Cerdd gan gynnwys y piano dan 12 oed – Ffion Davies, Llanybydder. Canu Emyn 12 – 16 oed – Elin Fflur Jones, San Clêr. Darllen o’r Ysgrythur dan 16 oed – Elin Fflur Jones, San Clêr. Penillion dan 16 oed – Hanna Medi Davies, Gwyddgrug. Unawd 12 – 16 oed – Sara Elan Jones, Cwmann. Adrodd 12 – 16 oed – Hanna Medi Davies, Gwyddgrug. Deuawd dan 16 oed – Sioned ac Elan. Unawd ar unrhyw offeryn cerdd [gan gynnwys y piano] 12 – 16 oed – Sara Elan Jones, Cwmann. Unawd 16 – 21 oed – Sioned Howells, New Inn. Adrodd 16 – 21 oed – Gwenllian Llwyd, Talgarreg. Ensemble Lleisiol 10 – 26 oed – Parti’r Gors. Sgen ti Dalent – Cydradd gyntaf – Parti’r Gors ac Heledd a Gwenllian Llwyd, Talgarreg. Canu Emyn Agored – Gwennan Jones, Llanbed. Her Adroddiad dros 21 oed – Cydradd gyntaf – Enfys Davies, Llanddewi Brefi a Heledd Llwyd, Talgarreg. Unawd allan o unrhyw Sioe Gerdd – Gwenllian Llwyd, Talgarreg. Her Unawd dros 21 oed – Gwennan Jones, Llanbed.

Llenyddiaeth

Enillydd y Gadair - Llion Thomas
Enillydd y Gadair – Llion Thomas

Cadair i rai o dan 21 oed [rhoddedig gan Gwyn a Heddwyn Jones, Llwynbedw, Alltyblaca] – Llion Thomas, Llanbedr Pont Steffan.

Stori neu gerdd dan 16 oed – Hanna Medi Davies, Gwyddgrug

Barddoniaeth neu Stori – Cyfnod Sylfaen – Ela Mablen Griffiths-Jones, Cwrtnewydd

Barddoniaeth neu Stori CA2 – Elen Morgan, Drefach

Cân ysgafn neu ddychan – Mary Morgan, Llanrhystud

Cerdd ar fydr ac odl – Mary Morgan, Llanrhystud

Ysgrif neu Draethawd – Carys Briddon, Tre’r Ddôl

Bawddeg yn defnyddio enw unrhyw wlad – Carys Briddon, Tre’r Ddôl

Limrig – Mary Morgan, Llanrhystud.

Brysneges neu neges Trydar – Megan Richards, Aberaeron 

Hysbyseb – Mary Morgan, Llanrhystud.

Basgedi CA2

Cyflwynwyd cystadlaethau Celf eleni am y tro cyntaf yn yr Eisteddfod a braf oedd gweld 34 o fasgedi Pasg wedi cystadlu!

Basged Basg Cyfnod Sylfaen – Scott Hollinshead, Ysgol Henry Richard

Collage o’r Gwanwyn Cyfnod Sylfaen – Mali Jones, Ysgol Henry Richard

Basged Basg CA2 – Madi Potter, Ysgol Llanwenog

Collage o’r Gwanwyn CA2 – Elen Morgan, Ysgol Llanwenog

Diolch i bawb am gefnogi’r eisteddfod eleni eto ac yn arbennig i’r noddwyr am eu rhoddion ariannol tuag at y diwrnod.  Diolch yn fawr iawn i bawb a wnaeth ddod i gystadlu eleni a gobeithio y gwelwn ni chi eto y flwyddyn nesaf!

Bydd mwy o luniau yn rhifyn mis Mai Papur Bro Clonc.