Elin yw cyflwynydd newydd Cyw

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Elin Haf Jones, neu ‘Elin Lifestyle’ i’w chydnabod, yw cyflwynydd newydd y rhaglen foreol i blant – Cyw ar S4C.

Ers rhai wythnosau mae’r ferch o Faesycrugiau ger Llanybydder wedi cadw’r gyfrinach o dan ei chap, ond ar faes y Brifwyl ym Môn heddiw fe gafodd blant bach Cymru wybod pwy yw eu cyflwynydd newydd.

Mae’r swydd hon yn gwireddu “breuddwyd oes,” meddai gan esbonio iddi “ddyheu am fod yn gyflwynydd plant ers pan oeddwn i’n ddim o beth – o’n i’n joio pob eiliad o Slot Meithrin a Planed Plant!

“Dw i eisiau gwneud yn siŵr bod plant Cymru yn cael yr un profiadau a sbort ag y ces i flynyddoedd yn ôl wrth wylio’r teledu.”

Blwyddyn brysur

Mae Elin eisoes wedi gwneud ei marc yn y byd teledu lle mae ar hyn o bryd yn is-gynhyrchydd i’r gyfres Tag ar S4C. Cyn hynny bu’n ymchwilydd i raglenni plant a phobol ifanc Stwnsh Sadwrn, Dona Direidi a Chwarter Call.

Cymraeg a Ffilm a Theledu oedd ei phynciau ym Mhrifysgol Aberystwyth lle mae hefyd wedi gweithio ar gyfresi Y Sioe a Ffermio.

Mae’n rhannu ei hamser rhwng Caerdydd a’r gorllewin, ac mi fydd eleni’n flwyddyn brysur i’r ferch o glwb Llanwenog sydd hefyd yn un o ddirprwyon C.Ff.I. Ceredigion.

‘Anodd cadw’r gyfrinach’

“O’dd hi’n anodd iawn cadw’r gyfrinach ar y dechrau gan fy mod i’n gweithio ar raglenni Stwnsh – sydd yn yr un swyddfa â Cyw,” meddai.

“Ond fe wnes i ddweud y newyddion wrth Mam, Dad a fy nghariad – a Mam-gu wrth gwrs!”

“Dw i’n berson bywiog a hapus, a gobeithio y bydd hyn yn cael ei adlewyrchu ar y sgrin – dw i’n edrych ymlaen at weithio gyda Huw [cyflwynydd arall Cyw], ac at gyfarfod plant Cymru a thu hwnt yn ystod digwyddiadau’r flwyddyn a Thaith Nadolig Cyw.”

Mi fydd hi’n dechrau ar ei gwaith ar Fedi 4 gan gyflwyno bob bore o 6yb ymlaen.