Fferm Denmarc yn dathlu 30 mlynedd

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360
Caban Fferm Denmarc

Mae fferm 40 erw ym Metws Bledrws ger Llanbed wedi “gweddnewid yn llwyr” yn ôl un o’r bobol sy’n gweithio arni.

Dros y penwythnos cafodd diwrnod agored ei gynnal yng nghanolfan gadwraeth Fferm Denmarc i nodi 30 mlynedd ers i’r Ymddiriedolaeth Shared Earth sefydlu yno yn 1987.

Mae’r ganolfan yn cynnig cyrsiau cadwraeth, gweithdai i blant a llety i bobol aros a gwersylla.

Bywyd gwyllt

Mara Morris

“Mi gafodd ei datblygu’n wreiddiol fel menter breifat wedi i bâr o’r enw Neil a Barbara Taylor brynu’r lle yn 1985,” meddai Mara Morris sy’n gweithio’n y ganolfan ers deng mlynedd.

“Roedd hi’n fferm ddefaid draddodiadol,” meddai gan esbonio nad oedd llawer o fywyd gwyllt o gwmpas.

“Mi oedden nhw’n ei alw’n ddiffeithdir i fywyd gwyllt ac aethon nhw ati i edrych ar ffyrdd i annog byd natur yn ôl i’r ardal,” meddai Mara.

Dwy flynedd yn ddiweddarach ymunodd yr ymddiriedolaeth â nhw i ddatblygu’r ganolfan sydd erbyn hyn yn gartref i fwy na 46 o rywogaethau adar a chant o rywogaethau o blanhigion.

Ben Lake, AS, yn annerch yn y diwrnod agored

Pam yr enw?

Yn ôl Mara Morris, mae’r enw ‘Denmarc’ wedi bod yn gysylltiedig â’r fferm am fwy na 300 mlynedd, a does ganddo ddim byd i wneud â’r wlad Sgandinafaidd.

Esboniodd fod y fferm yn eiddo i Gymro o’r enw John Jones a oedd yn byw yn Llundain ac a ddaeth yn ôl i’r fferm rhywbryd rhwng 1799 ac 1819.

“Roedd e’n byw ger Denmark Hill yn Llundain ac ry’n ni’n credu iddo ddod â’r enw yn ôl gydag ef i’r fferm,” meddai.

Adeilad ‘Darganfod Bywyd Gwyllt’ newydd

Adeilad newydd

Yn rhan o’r dathliadau ddydd Sul (Medi 24) fe agorodd Ben Lake, Aelod Seneddol Ceredigion, adeilad newydd yn y ganolfan fydd yn cynnig deunyddiau addysgiadol a lle i wylio adar.

“Ni’n gobeithio denu mwy o grwpiau ysgolion i’r ganolfan yn y dyfodol,” meddai Mara gan sôn am ddatblygiadau’r Ystafell Darganfod Bywyd Gwyllt newydd.