FIDEO: Ar drywydd Cymro yn China

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360
Dylan Iorwerth yn Harbwr Shanghai

Dylan Iorwerth yn olrhain hanes cenhadwr o Ffaldybrenin 

Mae newyddiadurwr o Lanwnnen wedi bod ar drywydd Cymro o Ffaldybrenin ger Llanbed a fu’n cenhadu yn China yn yr 1870au. 

Yn y rhaglen ddiweddara’ o’r gyfres Dylan ar daith mi fydd Dylan Iorwerth, Golygydd Gyfarwyddwr cwmni Golwg, yn taflu goleuni ar waith y cenhadwr Timothy Richard ar raglen arbennig nos Sul (Hydref 15) ar S4C. 

Mae Timothy Richard yn cael ei gofio yn China am sefydlu’r brifysgol fodern gyntaf yno, am osod gwreiddiau ar gyfer addysg feddygol ac am ei waith yn ymladd yn erbyn newyn.

“Mae’n cael ei gofio mewn sawl lle ac am sawl rheswm, mewn capeli am fod yn un o’r cenhadon mwyaf erioed yn China, mewn coleg meddygol am hyrwyddo meddygaeth fodern ac yn y brifysgol am fod yn un o sylfaenwyr trefn addysg fodern China,” meddai Dylan Iorwerth. 

Ei wreiddiau… 

Yn wreiddiol o Ffaldybrenin, bu Timothy Richard (1845 – 1919) yn aelod o Eglwys y Bedyddwyr Caeo gan weithio am gyfnod yn athro ysgol, cyn hyfforddi wedyn yng Ngholeg y Bedyddwyr, Hwlffordd. 

Yn 1869 cafodd ei anfon gan Gymdeithas Genhadol y Bedyddwyr i China lle bu’n cenhadu yno tan tua 1915, ac mae’n cael ei gofio hyd heddiw gydag amryw o luniau a cherfluniau ohono yn y wlad. 

Newyn a newid 

Yn rhan o’r gyfres gan gwmni Unigryw o Dal-y-bont, mae Dylan Iorwerth yn canolbwyntio ar ei waith yn ymladd newyn, ei agwedd at grefyddau eraill a’i gyfraniad at wyddoniaeth, addysg a datblygiad China. 

Pan symudodd Timothy Richard i China yn gyntaf, mi welodd newyn difrifol gydag adroddiadau fod tua 15 – 20 miliwn o bobol wedi marw bryd hynny. 

Mi aeth ati i gasglu arian o wledydd Prydain a chreu trefn i ddosbarthu’r cymorth a dyma o bosib oedd yr “ymgyrch ddyngarol Gristnogol gyntaf o’i bath, yn batrwm i’r hyn sy’n digwydd adeg trychinebau heddiw,” meddai Dylan Iorwerth. 

Bu hefyd yn allweddol wrth ddatblygu gwyddoniaeth, meddygaeth fodern, rheilffyrdd a dulliau amaeth newydd yn China, ac roedd yn gredwr mawr mewn addysg. 

“Ar ôl i lawer o genhadon gael eu lladd mi gafodd y gwaith o drafod iawndal. Yn hytrach na chosbi, mi gafodd arian i greu prifysgol orllewinol sy’n cael ei gweld yn sail i addysg fodern yn China,” meddai Dylan Iorwerth. 

Mae’r rhaglen Dylan ar daith – Newyn a newid, Cymro yn China i’w gweld ar S4C nos Sul, Hydref 15, am 8 o’r gloch.