FIDEO: Byd natur yn batrwm i lên

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mewn darlith arbennig yn festri Capel Brondeifi yn Llanbed neithiwr, mae un o brif awduron Cymru wedi datgelu sut y mae’n defnyddio byd natur yn batrwm i ysgrifennu.

Mae Caryl Lewis, sydd wedi ennill gwobr Llyfr y Flwyddyn ddwywaith am ei nofelau, yn gweld siâp y goeden yn batrwm i lunio nofel.

“Mae’r hyn sy’n digwydd islaw’r pridd yn rhoi bywyd a thyfiant i’r hyn sy’n digwydd yn y stori,” meddai.

Cyfraniad Islwyn Ffowc Elis

Caryl Lewis oedd yn traddodi darlith goffa Islwyn Ffowc Elis eleni yn ystod Gŵyl Golwg (Hydref 26), ac mae’n cydnabod cyfraniad yr awdur fu’n byw yn Llanbed.

“Islwyn boblogeiddiodd y nofel Gymraeg, Islwyn fentrodd ennill ei fywoliaeth fel awdur llawn amser gan gymryd y camau cyntaf at broffesiynoli’r diwydiant yng Nghymru,” meddai Caryl Lewis.

Ac mae’n dweud ei bod yn rhannu’i werthoedd at fro, gwreiddiau, bywyd cefn gwlad a gwerth stori.

Cragen a phluen

Mae’r awdures hefyd yn sôn am gragen yn drosiad i gerdd a phluen yn drosiad i ysgrifennu stori fer.

Mae’n cyfeirio at “asgwrn cefn” pluen sy’n asgwrn cefn i stori – “does dim lle mewn stori fer i wyro oddi ar lwybr y traethu, rhaid gwybod yn union lle mae’n mynd.”

Ac mae’ngweld cragen yn batrwm i gerdd oherwydd – “wrth wrando ar y geiriau’n atseinio oddi ar y waliau fe fyddwn yn ymateb fel unigolion, fe fydd y seiniau’n swnio’n wahanol i’m clustiau i a’ch clustiau chi.”

Mwy am y stori hon ar wefan Golwg360