FIDEO – Delyth i gadeirio panel o gerddorion

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360
Cartref William Williams Pantycelyn

Cynhadledd arbennig i goffáu 300 mlynedd ers geni Williams Pantycelyn 

Mae cynhadledd arbennig yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn (Hydref 14) i goffáu tri chanmlwyddiant ers geni William Williams Pantycelyn, gyda Delyth Morgans Phillips yn cadeirio panel o gerddorion. 

Mi fydd Delyth yn holi Dafydd Iwan, Lleuwen Steffan a Gareth Bonello am ddylanwad y Pêr Ganiedydd ar eu gwaith, ac yn ystyried sut mae cyflwyno’r emynau mewn cyd-destun cyfoes. 

Dywed ei bod yn edrych ymlaen at gadeirio’r sesiwn sy’n cynnwys “tri chanwr cyfoes gwahanol i’w gilydd.” 

“Cawn glywed am eu hymwneud nhw ag emynau Pantycelyn, sy’n dystiolaeth i ddylanwad y Pêr Ganiedydd arnom ni Gymry Cymraeg mewn sawl maes, nid dim ond i fywyd y capel a’r eglwys,” meddai. 

‘Ei emynau’n oesol’ 

Delyth Morgans Phillips

Yn rhan o’r gynhadledd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ddydd Sadwrn (Hydref 14) mi fydd cyflwyniadau gan yr ysgolheigion E. Wyn James, Eryn M. White, Gwynn Matthews, Densil Morgan a Ceri Davies. 

Fe fydd hefyd cyfrol o ysgrifau gan y diweddar Glyn Tegai Hughes am Bantycelyn yn cael ei lansio, ynghyd â chyfle i weld arddangosfa’r Llyfrgell Genedlaethol ar ei fywyd a’i waith. 

“Mae’n wych gweld cymaint o gymdeithasau’n mynd ati i drefnu’u gweithgareddau’u hunain i goffáu Williams Pantycelyn eleni ym mlwyddyn tri chanmlwyddiant ei eni,” meddai Delyth sy’n Ysgrifennydd Cymdeithas Emynau Cymru. 

“Mae ei emynau’n oesol, ac mae e wedi gadael i ni stôr o benillion eithriadol o gyfoethog.” 

Gareth Bonello 

Un o’r tri sy’n rhan o’r panel yw Gareth Bonello, canwr The Gentle Good, sy’n astudio doethuriaeth ar ddylanwad crefydd a cherddoriaeth Bryniau Casia yng ngogledd ddwyrain India. 

Esbonia’r canwr fod cenhadon y Methodistiaid Calfinaidd o Gymru wedi teithio i Fryniau Casia rhwng 1841 ac 1969, a bod dylanwad Cristnogaeth yn parhau yn yr ardal hyd heddiw. 

“Emynau oedd un o’r prif ffyrdd yr oedden nhw’n gallu denu torf i ddod i wrando arnyn nhw,” meddai gan ddweud fod llawer o’r rheiny yn emynau gan Bantycelyn. 

Dyma glip ohono’n canu’r emyn, ‘Pererin wyf mewn anial dir’, i dôn ‘Hiraeth’ gan y cyfansoddwr Daniel Protheroe, ac enw’r offeryn yw’r Duitara – offeryn traddodiadol o’r India.