Cyfarfod Cyhoeddus, 17 Tachwedd 2017 am 7 o’r gloch yn Festri Capel Brondeifi gyda Ben Lake AS, Heini Gruffudd (Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith) a Cynog Dafis (sy’n aelod o Fwrdd Dyfodol i’r Iaith).
Mae Dyfodol i’r Iaith wedi bod yn cynnal cyfarfodydd ledled Cymru, a bydd yn dal i wneud hyn.
Un nod yw cael gwybodaeth gan bobl leol: beth sy’n helpu’r iaith yn lleol? Beth yw’r heriau?
Nod arall yw cyflwyno sut mae Dyfodol i’r Iaith am weld pethau’n digwydd. Rydyn ni am roi blaenoriaeth i hyrwyddo’r iaith yn y gymdeithas, yn y cartref ac yn y gwaith, fel bod mwy o siaradwyr Cymraeg yn cael cyfle i ddefnyddio’r iaith.
Ar hyn o bryd, ac efallai ers hanner canrif, mae’r prif bwyslais wedi’i roi ar ennill statws i’r Gymraeg ac ar hawliau unigolion. Erbyn hyn mae’n rhaid newid y pwyslais, i ganolbwyntio ar greu cyfleoedd i siaradwyr Cymraeg ddefnyddio’r iaith.
Ers ei sefydlu 5 mlynedd yn ôl mae Dyfydol i’r Iaith gweld llawer o’i gynigion yn cael eu derbyn, gan gynnwys:
· Sefydlu dwsin o Ganolfannau Cymraeg
· Sefydlu canolfan genedlaethol Cymraeg i Oedolion
· Rhoi lle i’r Gymraeg yn y ddeddf Cynllunio
· Sefydlu ail sianel radio
· £2 filiwn i hyrwyddo’r Gymraeg
Y peth nesaf mawr o bwys fydd gweld y llywodraeth yn sefydlu corff a fydd yn gyfrifol am arwain cynllunio iaith a hyrwyddo’r iaith. Dyma destun y papur gwyn y mae’r llywodraeth wedi’i baratoi. Rydyn ni’n gobeithio y caiff hwn ei sefydlu erbyn 2020.
Y pwnc mawr dros yr ugain mlynedd nesaf yw cael mwy o siaradwyr Cymraeg, a’r un mor bwysig yw ei gwneud hi’n hawdd i bobl ddefnyddio’r iaith.
Fydd hyn ddim yn digwydd heb gynllunio gofalus, a gweithredu creadigol. Ddaw hyn ddim yn y drefn bresennol, lle mae newidiadau gwleidyddol yn gallu torri ar draws cynlluniau. A ddaw hi ddim tra bod cymaint o awdurdodau lleol a chyrff eraill yn llaesu dwylo.
I ddylanwadu ar y llywodraeth, fel corff lobio cyfrifol, mae ar Dyfodol i’r Iaith angen cefnogwyr, a bydd denu cefnogwyr ac aelodau, wrth gwrs, yn nod arall i’r cyfarfod.
Rydyn ni’n edrych ymlaen at gydweithio cadarn a chreadigol.