Fe fydd tua £1 miliwn yn cael ei fuddsoddi mewn gradd ymchwil newydd i hyrwyddo trafod rhwng crefyddau mawr y byd.
Mae’r radd doethuriaieth mewn Cytgord ym Mhrifysgol y Drindod Dewi Sant wedi ei noddi gan sefydliad Bwdaidd sydd â miliynau o ddilynwyr.
Roedd cyfarfod ar gampws y Brifysgol yn Llanbed ddiwedd yr wythnos diwetha’ i drafod dilysu’r cwrs tair blynedd a fydd yn cynnwys astudiaeth o ysgrythurau’r prif grefyddau gydag ysgoloriaethau i fyfyrwyr o bob rhan o’r byd.
Mwy o drafod a chytundeb
Y gobaith yw y bydd arweinwyr crefyddol rhyngwladol yn enwebu myfyrwyr i ddod ar y cwrs a hynny’n arwain at fwy o drafodaeth a chytundeb, meddai Dr Catrin Williams o adran grefydd y Brifysgol.
Fe ddaeth y cyhoeddiad am y ddoethuriaeth yn ystod cynhadledd rhyng-ffydd a oedd hefyd wedi’i noddi gan Sefydliad Addysgol Bwdaidd y Tir Pur a’i harweinydd, yr Hybarch Feistr Chin Kung.
Y disgwyl yw y bydd mwy nag 20 o fyfyrwyr yn dod i Lanbed ar gyfer y radd tair blynedd – fe fydd yn dechrau gydag addysgu am y prif ysgrythurau a’r hyn sy’n gyffredin rhyngddyn nhw ac wedyn ymchwil dyfnach i ysgrythurau crefydd benodol.
‘Llawenydd’
“Fe fydd hyn yn llawenydd mawr i Dduw yr holl grefyddau,” meddai Chin Kung wrth annerch y gynhadledd.
“Mae 70-80% o gynnwys y prif grefyddau yrn gyffredin neu’n debyg; mae’r gwahaniaethau yn y gwahanol ffyrdd o fyw.”
Mae Chin Kung hefyd yn pwysleisio cytgord gyda’r ddaear a’r byd naturiol – “Dylai pobol garu’r byd ar ran Duw,” meddai.
Mae wedi bod yn treulio dau fis yn Llanbed; mae hefyd yn gweithio ar gynlluniau i dynnu’r cerefyddau ynghyd yn Awstralia a Singapore ac yn cymryd rhan flaenllaw mewn trafodaethau yn y maes gyda sefydliad y Cenhedloedd Unedig, UNESCO.