Gwledd o fwyd a diod

gan Rob Phillips

Cynhaliwyd Ffair Fwyd Llambed eleni ar ddydd Sadwrn 29ain Gorffennaf, ac unwaith eto roedd yr haul a’r siopwyr allan. Roedd y dref yn llawn gydag ymwelwyr o’r ardal leol ac o bellach i ffwrdd i flasu ac i brynu’r cynnyrch gorau lleol oedd ar gael. Mae’r trefnwyr yn amcangyfrif bod tua 8,000 wedi dod. Roedd nifer o ymwelwyr wedi teithio am ddim i Lambed gan fod modd teithio yn ddi dâl ar fws T1 ar y penwythnos.

Cafodd y ffair ei agor gan ein Haelod Seneddol newydd Ben Lake a’r Maer Hag Harris, gyda’r Maer a’r Faeres yn beirniadu’r stondinau – tasg a gymerodd y rhan fwyaf o’r dydd. Yn y pen draw roedd yn rhaid dewis enillydd gyda Welsh Mangalitiza yn ennill y stondin gorau, Bragdy Bluestone yn ennill stondin diodydd gorau, Caws Teifi yn ennill y stondin bwyd orau a Rustic Reclaimed yn ennill y categori ‘arall’.

Roedd amrywiaeth eang o fwydydd a diodydd – o gacennau i gaws, o gig i gwrw, ac o win i fara. Un o fy hoff stondinau oedd y Bws Gwrw – cyfle i flasu ac arbrofi ar gyfer Gŵyl Gwrw a Seidr Llambed 2018!

Mae’r tîm sy’n trefnu’r ffair yn wirfoddolwyr ac yn rhoi tipyn o waith am nifer o fisoedd i drefnu digwyddiad sydd mor bwysig yng nghalendr y dref. Yr aelod mwyaf newydd yw Meleri Morgan.

Mae’r Ffair Fwyd eisiau diolch yn arbennig i Rebecca Jones, Ford Gron Llambed, y prif gogyddion a’r artistiad a ddarparodd yr adloniant a phawb fu’n helpu ar y dydd. Hoffen nhw hefyd diolch i’r noddwyr sef LAS, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Ty Nant, Tacsi NickH, Castell Howell, Cyngor Tref Llanbedr Pont Steffan a Chyngor Sir Ceredigion.

Hoffem ddiolch i bawb ar y Pwyllgor sy’n gweithio mor galed i drefnu’r digwyddiad pwysig hwn yn flynyddol.