Gwledd o rygbi er cof am Tom Mackie

gan Rhys Jones

Ar ddydd Sadwrn, Ebrill 22ain yng ngorllewin Iwerddon, enillodd tîm rygbi ieuenctid Llambed yn erbyn tîm dan 20 Tralee er mwyn cipio Cwpan Coffa Tom Mackie am yr eildro yn olynol. Mae’r cysylltiad rhwng y ddau glwb yn un hanesyddol sydd wedi bodoli ers blynyddoedd maith, ac hyd heddiw, mae’r berthynas sydd rhyngddynt yn un sydd mor agos ag erioed.

Roedd Tom Mackie yn un o gymeriadau mwyaf gweithgar ac adnabyddus yng Nghlwb Rygbi Llambed, ac felly roedd y tlws yn un a oedd yn meddwl llawer i aelodau’r tîm, gan fod llawer ohonom ni wedi adnabod y gŵr ers ymuno â’r clwb. Albanwr oedd Tom a oedd hefyd yn enwog gydag aelodau o glwb rygbi Tralee, a dyma beth greodd y berthynas arbennig yma.

Chwaraewyd y gêm ar barc O’Dowd, sef cartref tîm rygbi Tralee, ar ddiwrnod bendigedig. Dechreuodd y gêm yn arbennig i fechgyn Llambed wrth roi pwysau cyson ar linell amddiffynnol y Gwyddelod. Yn fuan, fe dorrodd Ifan Davies drwodd ar gyfer cais agoriadol y gêm yn dilyn dwylo arbennig gan flaenwyr Llambed. Ar ôl i Callum Wilson drosi’r cais, ymatebodd y tîm cartref yn syth wrth sgorio ar yr asgell dde ar ôl i’r tîm oddi-cartref frwydro’n arwrol i amddiffyn y sgôr.

Cafodd maswr y tîm cartref dair cic gosb yn olynol, yn dilyn gwallau esgeulus Llambed. Gaeth y cefnwr tanllyd Ieuan Wyn Rees bedair cais yn ystod y gêm, cyn gadael y cae yn gynnar yn yr ail hanner gydag ychydig o anaf. Ieuan hefyd gipiodd gwobr Seren y Gêm. Fe ymosododd Tralee eto tuag at ddiwedd yr hanner gyntaf ac yna, yn dilyn cic gosb arall gan y maswr, fe ddaeth yr hanner cyntaf i ben.

Roedd yr ail hanner yn un a wnaeth ddangos safon arbennig o rygbi ymosodol, wrth i’r ddau dîm ledu’r bêl yn effeithiol iawn er mwyn ceisio defnyddio’r cyflymder ar yr esgyll. Yn fuan yn yr ail hanner, fe basiodd y canolwr Matthew Jenkins y bêl i’r gwibiwr ifanc Shaun Morgans cyn i’r asgellwr ochrgamu’n bert heibio’i wrthwynebydd cyn carlamu dros y llinell gais.

Yn dilyn ail gais Ifan Davies, a throsiad arall i Wilson, roedd pennau’r gwrthwynebwyr yn dechrau cwympo, wrth i’r eilydd o fewnwr, Rhys Davies, ddefnyddio’i sgiliau trin pêl yn effeithiol i greu cyfleoedd i’w dîm. Ond, ar ôl ychydig, fe redodd y capten James Edwards yn syth drwy ganol y cae, gan fwrw amddiffynnwr neu ddau i’r llawr yn ffyrnig, ond yn ystod tacl lwyddiannus gan y cefnwr, fe ddadlwythodd y bêl i’r asgellwr Rhodri Hatcher er mwyn iddo neidio o dan y pyst i gwblhau’r sgorio. Ar ôl i Hatcher ychwanegu’r trosgais, fe chwythodd y dyfarnwr i derfynu’r gêm.

Fe ddathlodd bechgyn Llambed y fuddugoliaeth ar ôl iddynt siglo llaw gyda’r gwrthwynebwyr. Roedd hyfforddwyr Llambed wrth eu boddau wrth iddynt dderbyn y tlws gyda’r capten James Edwards am yr eildro mewn tair mlynedd. Roedd y sgôr terfynol o 42-16 yn un nad oedd yn adlewyrchu pa mor agos oedd y gêm mewn gwirionedd, ond yn anffodus i glwb Tralee, Llambed oedd ar y brig unwaith eto eleni! Ac er mwyn ychwanegu at y dathlu, mae’r tîm ieuenctid hefyd wedi ennill cynghrair Gorllewin Sir Gâr, ac mi fyddant yn chwarae yn erbyn Clwb Rygbi Neyland ar ddydd Sadwrn Ebrill y 29ain yng Nghwpan Pencampwyr Cynghrair y Scarlets yng Nghlwb Rygbi Llwchwr, felly dewch i gefnogi!