Mae dynes sy’n dioddef gyda chanser yn gobeithio cwblhau Marathon Eryri’r penwythnos hwn, a hynny er i dalp o’i hysgyfaint gael ei dorri allan yn ystod triniaeth.
Tair blynedd yn ôl mi gafodd Jane Holmes, o bentref Ffarmers yng ngogledd Sir Gaerfyrddin, ddiagnosis o ganser ar ei hysgyfaint – roedd hi’n 43 ar y pryd a heb ysmygu erioed.
Ers hynny mae wedi codi mwy na £18,700 ar gyfer elusen ganser, Roy Castle Lung Foundation, ac mae’n gobeithio codi ymwybyddiaeth nad ysmygu ydy’r unig gysylltiad â chanser yr ysgyfaint.
‘Dycnwch cymeriad’
“Mae agwedd Jane bob amser yn bositif a dyw hi byth yn ildio i newyddion drwg,” meddai Steven Holmes, ei gŵr, fydd hefyd yn rhedeg y marathon yfory.
“Dydy rhedeg 26.2 milltir o gwmpas mynyddoedd Eryri ddim yn hawdd, ond gyda darn mawr o’i hysgyfaint wedi’i dynnu rhai blynyddoedd yn ôl ac effeithiau eraill triniaeth ffyrnig, mae hi’n dal i edrych ar y pethau positif,” meddai.
Nid dyma fydd y tro cyntaf iddi redeg y marathon chwaith a hynny wedi iddi gystadlu yn 2015, pedwar mis ar ôl cael llawdriniaeth ar ei hysgyfaint, gan gwblhau’r ras mewn chwe awr a 10 munud.
“Mae hynna’n dangos dycnwch ei chymeriad a’i hagwedd gadarnhaol,” meddai Steven Holmes.
Ennyd Gobaith
Yn ddiweddar mi wnaeth Steven a Jane Holmes drefnu gwasanaeth arbennig yn Eglwys Llanbedr Pont Steffan i gynnig cymorth i bobol sydd wedi’u heffeithio gan ganser, sef Ennyd Gobaith.