Mae Gŵyl Haf Genedlaethol Merched y Wawr yn cael ei chynnal yn flynyddol ym Machynlleth. Yn rhan o’r ŵyl honno, mae’r cyfarfod blynyddol, cystadlaethau perfformio, rowndiau terfynol Chwaraeon (megis tennis bwrdd a chwarae chwist) a chystadlaethau ysgrifenedig amrywiol.
Gillian ar y brig
Llongyfarchiadau anferthol i Gillian Jones, Meysydd, Llanwnnen, Trysorydd Cangen Merched y Wawr Llambed, ar ei champ yn ennill y brif wobr lenyddol yng Ngŵyl Genedlaethol y mudiad ddydd Sadwrn diwethaf. Daeth i’r brig yn y gystadleuaeth i gyflwyno gwaith llenyddol mewn unrhyw ffurf ar y testun ‘Nid aur yw popeth melyn’. Nid yn unig hynny, ond daeth yn ail yn yr un gystadleuaeth ynghyd â dod yn ail yn y gystadleuaeth Stori Feicro. Roedd y Prifardd Manon Rhys wedi dwli ar stori Gill ac mae pawb yn edrych ymlaen nawr at ei darllen yn Y Wawr ar ôl cael blas arni mewn darlleniad yn ystod y seremoni. Efallai y gall Clonc ei chyhoeddi hefyd?
Roedd y cyfan yn fwy arbennig fyth i’r criw o Lambed a oedd yn bresennol gan i Gill dderbyn Tlws Llenyddol Ann Lewis – tlws a gyflwynwyd rhyw ddwy flynedd yn ôl er cof am un o gyn-aelodau cangen Llambed, sef y diweddar Ann Lewis, Bronwydd, Stryd y Bont. Hefyd, mae’n flwyddyn arbennig i’r mudiad gan fod MYW yn dathlu 50 mlynedd ers ei sefydlu.
Ail wobr am greu rhaglen ddiddorol gyda diwyg da
Roedd hi’n ddiwrnod arbennig i MYW Llambed mewn ffordd arall hefyd. Dyfarnwyd yr ail wobr i’w rhaglen o 270 o raglenni canghennau Gwawr a MYW trwy Gymru. Roedd y rhaglen o weithgareddau’r flwyddyn a ddarparwyd gan y gangen yn cael ei beirniadu ar sail amrywiaeth, pa mor ddiddorol oedd hi ac o ran diwyg. Roedd hi’n dipyn o gystadleuaeth! Cyflwynwyd rhuban anferth i’r enillwyr i gyd ar y diwrnod (cafodd Gillian dri!) ac roedd llywydd cangen Llambed yn gwisgo’r un am y rhaglen gyda balchder drwy’r dydd – er bod enillwyr eraill wedi eu rhoi yn eu bagiau! Yn sicr mae digwyddiadau a phrofiadau diddorol a da yn cael eu cynnig yn fisol gan y gangen. Byddai’n grêt cael mwy o aelodau y flwyddyn nesaf. (Yn cyfarfod ar nos Lun cynta bob mis yn festri Shiloh os am ymuno).
Creu Paneli Celf
I ddathlu 50 Merched y Wawr, crewyd deuddeg o Baneli Celf hardd gan aelodau creadigol a dawnus ledled Cymru. Bydd rhain i’w gweld mewn sawl lleoliad yn ystod y misoedd nesaf e.e. yn Eisteddod yr Urdd a’r Genedlaethol, yn y Sioe Frenhinol ac yn y Llyfrgell Genedlaethol. Bu Aerwen, Ann a Morwen o gangen MYW Llambed, sef swyddogion Pwyllgor Celf a Chrefft Ceredigion eleni, yn weithgar iawn gyda’r project.
Rajesh yn ennill gwobr i Ddysgwyr y Gymraeg
Rajesh David o Lambed enillodd y wobr ar gyfer Dysgwyr ar lefel Uwch yng Ngŵyl Merched y Wawr. Mae Rajesh yn gymeriad bywiog sy’n frwdfrydig iawn dros y Gymraeg. Ac ydyn, mae cystadlaethau’r dysgwyr yn agored i ddynion yn ogystal â menywod! Llongyfarchiadau calonnog iawn iddo. Gwych. Edrychwn ymlaen at ddarllen ei erthygl am ei brofiadau yn dysgu Cymraeg.