Llyfr i Ddathlu Addysg yng Nghwrtnewydd

gan Luned Mair
Diwrnod dathlu yng Nghwrtnewydd

Ym mis Gorffennaf eleni mi wnaeth ysgol Cwrtnewydd gau ei drysau am y tro olaf, bron i 140 mlynedd ers iddi agor yn 1878. Cafwyd prynhawn i’w gofio ym mis Gorffennaf wrth i ddisgyblion, cyn-ddisgyblion a ffrindiau’r ysgol ddathlu hanes yr ysgol gyda chyngerdd llawn hwyl, atgofion ac emosiwn.

Mae Pwyllgor y Dathlu wedi penderfynu cyhoeddi llyfr er mwyn cael dathlu hanes addysg ym mhentref Cwrtnewydd mewn ffordd ychydig yn fwy parhaol, a nodi pwysigrwydd yr ysgol ym mywydau cynifer ohonon ni.

Ysgol Cwrtnewydd

Bydd y llyfr yn un llawn lliw, lluniau ac atgofion a fydd yn cael ei gyhoeddi cyn y Nadolig. Mi fyddai’n anrheg Nadolig perffaith i unrhyw un sydd â chysylltiad â Chwrtnewydd neu ddiddordeb yn yr ardal ac ysgolion bach y wlad.

Fe fydd y llyfryn yn costio rhywle rhwng £10 a £12 ac, er mwyn helpu gyda’r costau, r’yn ni’n apelio am danysgrifwyr.

Trwy dalu blaendal o £10 ymlaen llaw, byddwch yn sicrhau llwyddiant y fenter ac yn gwneud yn siŵr o gael eich copi chi.

Bydden ni’n hynod o ddiolchgar petaech chi’n gallu cysylltu cyn diwedd mis Hydref.

Cysylltwch â fi, Luned Mair, drwy e-bost: llyfrysgolcwrt@outlook.com neu ar y ffôn: 01570 481412/07791 006620 neu trwy’r post, i Cartref, Alltyblaca, Llanybydder SA40 9ST.