Llyfr Newydd! Teulu’r Gymwynas Olaf. Hanes Gwilym C. Price ei Fab a’i Ferched

gan Anna George

Mae trafod marwolaeth ac angladd yn dal yn rhyw fath o tabŵ, rhywbeth gwaharddedig. Ond yn Teulu’r Gymwynas Olaf cawn aelodau o un o gwmnïau angladdol amlycaf Cymru yn agor y llenni ar arferion, dyletswyddau ac anghenion yr ymgymerwr. Mae hon yn gyfrol ddadlennol sydd heb fod yn dywyll. Yn wir cawn yma ac acw gryn hiwmor.

Meddai Lyn Ebenezer, golygydd y gyfrol: “Yn briodol iawn, mewn angladd yr eginodd y syniad am y gyfrol hon. Roeddwn i’n sgwrsio mewn te angladd perthynas i mi dair blynedd yn ôl ag ymgymerwr yr angladd hwnnw sef Gwilym Price, Llanbed. Trodd y sgwrs at ambell i hanesyn diddorol ac ambell un doniol. A dyma feddwl y gwnai hanes Cwmni Gwilym Price a’i Fab a’i Ferched ffitio’n berffaith fel rhan o gyfres Gwasg Carreg Gwalch, ‘Syniad Da’.

“Mae’r gyfres yn rhoi sylw i Gymry a fentrodd yn y byd busnes ac mae busnes Teulu Price bellach ymhlith y mwyaf blaengar yng Nghymru gyfan. Cychwynwyd wedi i Gwilym ddod adref o’r Awyrlu heb ddim ond y siwt ‘demob’ y safai ynddi. Mentrodd fel saer coed gan araf ddatblygu busnes trefnu angladdau. Ehangwyd fwyfwy gan agor canolfan gwerthu dodrefn a llestri arbenigol.

“Nid adrodd hanes busnes llwyddiannus yn unig y ceisiwyd ei wneud. Teimlwn hefyd fod trefnu angladdau yn rhywbeth tywyll, rhywbeth a ystyrir yn tabŵ. Mae’r gyfrol yn torri’r tabŵ hwnnw gan agor llygaid y darllennyudd i’r ffaith nad yw trefnu angladdau’n wahanol i unrhyw fusnes arall. Fel y dywedodd Rhys, yr ŵyr sydd ei hun yn rhan o’r busnes, ‘Mae delio â’r meirw ym ffordd o fyw i ni.’”

£5 yn unig yw pris y llyfr. Cyhoeddir y gyfrol gan Gwasg Carreg Gwalch.

Cynhelir lansiad arbennig yng Nghlwb Rygbi Llanbed nos Sadwrn 1af o Ebrill am 7.30 yr hwyr. CROESO CYNNES I BAWB!