Lori GSUSlive yn Llambed

gan Jill Tomos

Wythnos cyn hanner tymor ym mis Mai, gwelwyd lori enfawr GSUSlive yn cael ei pharcio o flaen Ysgol Bro Pedr.

Roedd wedi dod yno am yr ail dro, er mwyn rhoi cyfle i ysgolion lleol ymweld i fanteisio ar y cyfleusterau sydd ar y lori, lle i 32 o blant a phobl ifainc ar y tro, fesul dosbarth.

Mae’r rhaglenni sydd ar bob cyfrifiadur ar y lori yn arwain y bobl ifainc i glywed am ddysgeidiaeth Iesu, a chariad Duw. Cyd-destun hyn yw’r ffordd mae’r ddysgeidiaeth honno’n helpu gyda phroblemau go iawn pobl ifainc debyg iddyn nhw. (Wedi dweud hynny, mae’r problemau penodol sy’n cael eu trafod, sef ofn, a’r teimlad eich bod yn cael eich gwrthod, a chael trafferth i faddau wedi cael cam, yn broblemau sy’n effeithio ar fwy na phlant a phobl ifainc hefyd.)

Yn ystod yr wythnos fe fu gwirfoddolwyr o eglwysi’r dre a’r ardal yn croesawu’r plant, yn gannoedd ohonyn nhw erbyn diwedd, a gyda’r nos fe fu rhai grwpiau eglwys hefyd yn ymweld.

Elusen gofrestredig Counties (rhif elusen 264278) sy’n darparu’r lori sy’n ymweld, felly diolch yn fawr i Counties, diolch i’r athrawon a’r ysgolion fu’n derbyn y gwahoddiad, a diolch hefyd i wirfoddolwyr ewyllysgar ar y lori bob dydd. Ond wrth gwrs, y diolch pennaf i’r rhai ifainc a ddaeth ar y lori ac ymroi i’r gwaith – ni’n falch iawn fod cymaint ohonyn nhw wedi joio! Gwych.

2 sylw

Kevin
Kevin

It seems a bit rude to reply in English, but this is a fantastic write up of the resource, we are glad you all enjoyed it.

Mae’r sylwadau wedi cau.