Mis Mawrth – mis ‘Steddfodau Cylch a Sir yr Urdd

Nia Wyn Davies
gan Nia Wyn Davies

Ar ôl wythnosau a misoedd o ymarfer fe ddaeth diwrnod Eisteddfod Gylch yn glou iawn. Yng Ngheredigion fe rennir y sir i 6 Cylch sef Aberystwyth, Aeron, Tregaron, Llambed, Llandysul ac Aberteifi. Cynhelir yr Eisteddfodau Cylch mewn gwahanol neuaddau pentref, theatr neu ysgolion uwchradd y sir. Mae safon eisteddfodau Cylch Ceredigion yn uchel iawn gydag ambell i feirniad yn dweud y byddwn siŵr o’u gweld ar lwyfan y Genedlaethaol ar ddiwedd mis Mai.

Yma yn lleol, cynhaliwyd Eisteddfod Cylch Llambed ar ddydd Iau, Mawrth 16eg yn Ysgol Gyfun Llambed gyda’r rhagbrofion yn Festri Brondeifi a Chapel Noddfa.

Yna, ar ôl ennill yn y Cylch, y cam nesaf yw mynd ymlaen i Eisteddfod Rhanbarth Ceredigion i gynrychioli eich Cylch yn erbyn gweddill y Sir a hynny ym Mhafiliwn Bont. Cafwyd dau ddiwrnod llawn o gystadlu yn Bont – yr Uwchradd ar ddydd Gwener, Mawrth 24ain a’r Cynradd trannoeth ar Mawrth 25ain.

Ers rhyw dair blynedd bellach mae’r Urdd mewn cydweithrediad â Gwasanaeth Cerdd Cyngor Sir Ceredigion yn cynnal Gŵyl Offerynnol yn Theatr Felinfach ble mae pawb sydd am gystadlu yn Adran Offerynnol yn dod i’r un man. Gwelir safon uchel iawn fan yma drwy gydol y dydd o unawd piano i delyn, o sacsoffon i ddrymiau!

Hefyd, cynhaliwyd Gŵyl Ddawns – sef yr Eisteddfod ddawns – yn Ysgol Bro Teifi, Llandysul, lle gwelwyd Dawnsio Gwerin i Hip-Hop/Disgo neu Stryd neu Aml-Gyfrwng o safon uchel iawn.

Os ydych am weld holl ganlyniadau Eisteddfodau Rhanbarth Ceredigion cliciwch ar y linc isod:

https://www.urdd4.org/canlyniadau/CanlyniadauEisteddfodRhanbarth2017.a5w?CodDig=2921&Dig=Eisteddfod Rhanbarth Ceredigion 2017

Gwelir holl luniau buddugwyr Cylch Llambed yn rhifyn mis Ebrill o CLONC – ond dyma lun neu ddau rhag ofn nad ydych wedi gweld y rhifyn cyfredol. Felly, os nad ydych wedi ei brynu – mynnwch gopi nawr – nid oes llawer ar ôl! Bargen am 60c.

POB LWC i bawb felly yn yr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym Mhen y bont ar Ogwr, Taf ac Elai ar ddiwedd mis Mai – welwn ni chi ’na!