Mudiadau’n wynebu trafferthion wrth golli swyddfeydd

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Prifysgol yn gwerthu adeiladau a rhoi rhybudd gadael i denantiaid

Mae o leiaf pump o gwmnïau a sefydliadau yn Llanbed yn wynebu trafferthion ac wedi cael gwybod bod yn rhaid iddyn nhw ddod o hyd i swyddfeydd newydd o fewn pedwar mis.

Mae’r rheiny’n cynnwys elusen sy’n cefnogi teuluoedd bregus ac maen nhw’n dweud bod pryder mawr ynglŷn â chael swyddfa arall.

Mae mudiad arall yn dweud eu bod nhwthau’n wynebu anawsterau a “phen tost” wrth chwilio am swyddfa newydd.

Gwerthu eiddo

Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wedi cadarnhau eu bod am werthu adeiladau ar gyrion y dref wrth i lês y tenantiaid ddod i ben.

Ond mae dau o’r mudiadau yno wedi dweud mai dim ond dwy flynedd yn ôl yr oedden nhw wedi symud i’r adeiladau yng Nghanolfan Dulais.

Mae’r Brifysgol hefyd yn ceisio gwerthu adeilad sylweddol ynghanol y dref – roedd hwnnw wedi bod yn wag ers tro.

‘Ansicrwydd yn bryder’

“Mae’r ansicrwydd hwn yn bryder mawr inni gyd,” meddai Cen Llwyd, cadeirydd elusen HomeStart yng Ngheredigion, sy’n cefnogi teuluoedd gydag anghenion.

Fe ddywedodd eu bod wedi cael rhybudd i adael eu swyddfa erbyn diwrnod ola’ mis Chwefror y flwyddyn nesa’.

Fe ddywedodd fod “cryn anniddigrwydd” yn nhref Llanbed am fod amryw o’r adeiladau’r Brifysgol “yn wag a’u cyflwr yn gwaethygu.”

‘Pen tost’

Mae cynrychiolydd mudiad arall ar y safle yn dweud y bydd dod o hyd i le arall yn “ben tost” oherwydd prinder o swyddfeydd da am bris rhesymol.

“Y broblem fwya’ inni fydd newid cyfeiriad, achos ni’n delio â phasborts ceffylau drwy Brydain.”

meddai Gwenan Thomas, cofrestrydd Cymdeithas Ceffylau Harnes a Throtian y Deyrnas Unedig ac Iwerddon.

Mae’n dweud mai newydd symud i Lanbed o Landrindod y mae’r gymdeithas ddwy flynedd yn ôl a “doedd dim arwydd o’r ansicrwydd bryd hynny.”

‘Buddsoddi yn yr ystâd a phrofiad myfyrwyr’ – ateb y Brifysgol

Mewn datganiad mae llefarydd ar ran Prifysgol y Drindod Dewi Sant yn dweud eu bod wedi penderfynu gwerthu Canolfan Dulais ar ôl arolygu’r ystâd.

“Mae ein strategaeth yn cynnwys rhyddhau rhai o adeiladau’r Brifysgol er mwyn buddsoddi yn yr ystâd a phrofiad y myfyrwyr ar ein campysau,” meddai’r llefarydd.

“Mae’r Brifysgol wedi adnabod Canolfan Dulais fel un o’r adeiladau a fydd yn cael ei gwerthu yn Llanbed.

“Daeth lês y tenantiaid i ben ac yn sgil hynny ysgrifennwyd atynt er mwyn eu hatgoffa a’u hysbysu na fyddai’r Brifysgol yn adnewyddu’r prif lês.”

“Er mwyn caniatáu amser iddynt wneud trefniadau eraill cynigiwyd cytundeb tymor byr iddynt a, lle bo hynny’n ymarferol, mae’r Brifysgol yn cydweithio gyda rhai o’r tenantiaid i adnabod llety amgen ar eu cyfer”.

  • Mae cwmni cyfreithwyr, Canolfan Deulu ac osteopath ymhlith tenantiaid eraill Canolfan Dulais.