Mynd ag ‘Oriel’ i Gaerdydd

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360
Tair cenhedlaeth, Oriel Barrie a Shaun Jones

Ers rhyw dair wythnos bellach mae dyn busnes ifanc o Lanybydder wedi agor siop gigydd yng Nghaerdydd gan werthu cynnyrch o glòs ei fferm ei hun.

Breuddwyd Shaun Jones yw dilyn ôl-troed ei dad-cu, ac mae wedi gwneud hynny drwy enwi’r siop yn Nhreganna ar ôl ei dad-cu, Oriel Jones, cyn-berchennog y lladd-dy mawr yn Llanybydder.

“Traddodiad ein teulu ni yw ffermio a bod yn gigyddion, ac o’n i eisiau’r cyfle i wneud yr un peth,” meddai Shaun gan ddweud fod ei dad-cu, sy’n 86 oed, wedi ymweld â’r siop ac yn “browd iawn” ohoni.

Enw adnabyddus

Mae Shaun yn esbonio fod pobol yn dod i’r siop oherwydd eu bod yn adnabod yr enw ac yn cofio’i deulu’n rhedeg y lladd-dy yn Llanybydder.

“Mae llawer o bobol o’r gorllewin wedi symud i Gaerdydd, ac maen nhw’n dod i’r siop achos y cysylltiad yna,” meddai.

Mae hysbysebion a gwybodaeth ar-lein yn pwysleisio’r cysylltiad.

Troi am Gaerdydd

Dim ond ers rhyw bum mlynedd y mae Shaun Jones wedi ffermio’n llawn amser, a hynny wedi iddo hyfforddi’n athro ysgol gynradd.

Un o’r pethau cynta’ a wnaeth ar ôl dychwelyd i ffermio gyda’i dad, Barrie Jones, oedd sefydlu gwefan i werthu’r cig ac mae’n dweud iddo ryfeddu cymaint o bobol o ardaloedd dinesig fyddai’n archebu ganddo.

“Dw i’n meddwl fod yna alw mawr yng Nghaerdydd a llefydd tebyg am gynnyrch ffres o safon, achos mae’n her i gael gafael arno.”

Traddodiad teuluol

Mae ei deulu’n ffermio fferm Llygadenwyn ger Llanybydder ac yn cadw gwartheg duon Cymreig, a defaid ac, yn y flwyddyn newydd, am ddechrau cadw moch.

“Mae pobol yn hoffi clywed y stori tu ôl i’r cynnyrch ac wrth eu bodd yn gweld enw’r ffarm ac enwau ffermydd lleol ar y labeli wrth brynu’r cig,” meddai Shaun.