Noson Gomedi Clwb Rygbi Llanbed! 10.07.17

gan Zeitgeist

Cynhelir Noson Gomedi gyda Dan Thomas a Phil Cooper (gyda MC: Gary Slaymaker) yng Nghlwb Rygbi Llanbedr Pont Steffan 8y.p., Nos Lun, 10/07/17

www.ticketsource.co.uk/zeitgeist

Dan Thomas
Wrth i ni fyw trwy oes terroristiaeth mae Dan Thomas yn cyflwyno sioe gomedi am ei fagwraeth …. gan terroristiaid. Tra roedd plant eraill yn cael eu twcio mewn i’w gwelyau i gyfeiliant hwiangerddi a storiau tylwyth teg, cadwyd Dan Thomas ar ddihun tan yr oriau mân gan polemics ei fam am gyfiawnhad moesol llofruddiaeth gwleidyddol a rôl hanfodol militia arfog. Roedd rhieni Dan yn aelodau o’r Free Wales Army. Dyma sioe gomedi am fagwraeth lle nad oedd cyfaddawdu yn opsiwn.

Phil Cooper
Mae Phil Cooper yn lais unigryw o’r Rhondda, ond yn bwysicach na hyn, mae’n lais unigryw o fyd comedi. Mae’r sioe yma’n gyfuniad o oreuon ei ddwy sioe Caeredin flaenorol yn ogystal ag uchafbwyntiau ei sioe Caeredin llynedd (“Manic Pixie Dream Boy”).

Noson Gomedi – Dan Thomas a Phil Cooper – Clwb Rygbi Llanbed – 10-07-17