Noson Wobrwyo Clwb Rygbi Llanybydder

gan Heulwen Williams

Ar Nos Wener 9fed o Fehefin, cynhaliwyd noson wobrwyo flynyddol Clwb Rygbi Llanybydder.

Roedd eleni yn achlysur arbennig iawn oherwydd roedden ni’n diolch i Gareth ‘Eagles’ Evans, hyfforddwr tîm rygbi Llanybydder am y 12 mlynedd diwethaf. Hoffai pawb yng Nghlwb Rygbi Llanybydder ddiolch i Gareth am ei ymrwymiad, ei ymroddiad a’i angerdd ar hyd y blynyddoedd. Dymunwn bob lwc a dymuniadau gorau iddo ar gyfer y dyfodol.

Roeddem yn ffodus iawn i groesawu George Earle a Steven Shingler o’r Gleision Caerdydd (cyn Scarlets) fel ein gwesteion gwadd eleni.  Diolch iddyn nhw am fynychu a chyflwyno’r tlysau i’r enillwyr.

Cafwyd areithiau pwrpasol gan ein llywydd Kevin Davies, Cadeirydd Mike Wilson ac Is-Gadeirydd Adrian Thomas.

Bu’r Clwb yn llawn chwerthin a bwrlwm wrth i’r digrifwr a chanwr Gary Le Vell ddechrau perfformio – adloniant perffaith, hwylus ar gyfer yr achlysur.

Llongyfarchiadau i’r holl chwaraewyr a dderbyniodd wobrau:

Richard Davies – Nifer fwyaf o geisiau

Steff Davies – Wedi gwella fwyaf ar hyd y flwyddyn

Richard Davies – Chwaraewr y Chwaraewyr

Stuart Phillips – Chwaraewr y flwyddyn

Wyn Davies – Chwaraewr ifanc y flwyddyn

Rhaid diolch i’r holl chwaraewyr am eu hymroddiad drwy gydol y tymor ac wrth gwrs i’r holl gefnogwyr ffyddlon. Edrychwn ymlaen at weld chi gyd y tymor nesaf.

Mae Llanybydder yn aros yn is-adran 2 ar gyfer y tymor 2017-2018. Os oes unrhyw un â diddordeb i ymuno â’r garfan, cysylltwch â’r clwb 01570 480524. Croeso cynnes i bawb.