Oedfa Eisteddfod yr Hanner Cant

Delyth Phillips
gan Delyth Phillips

Tro Noddfa, eglwys y Bedyddwyr, oedd croesawu oedfa Eisteddfod Rhys Thomas James Pantyfedwen Llanbedr Pont Steffan eleni. Ac roedd swyddogion yr eglwys yn edrych mlaen at roi cartref iddi ym mlwyddyn ei hanner can mlwyddiant.

Croesawyd pawb gan Llinos Jones, a hi wnaeth gyflwyno’r pregethwr gwadd. Cymerwyd rhan hefyd gan Elan a Sioned, Lowri, a Ffion. Bu Densil Morgan yn gweddïo a gwnes innau wneud y darlleniad. O gofio taw ‘ieuenctid yr eglwys’ a hysbysebwyd yn rhaglen yr Eisteddfod, rwyf i, Llinos a Densil (ac Ann Morgan a Janet Evans fu’n cyfeilio) yn ystyried hyn yn dipyn o gompliment!

Gwahoddwyd y Parchedig John Talfryn Jones o Rydaman, Llywydd Undeb y Bedyddwyr, i bregethu. Cododd yn destun 2 Brenhinoedd 6:16, ‘Paid ag ofni; y mae mwy gyda ni nag sydd gyda hwy’. Cafwyd ganddo bregeth obeithiol a chlir, ac roedd sawl un yn canmol ar ddiwedd yr oedfa fod yr awr wedi mynd heibio’n gyflym. Prawf da o bregeth effeithiol, mae’n rhaid!

Tynnodd y pregethwr sylw at yr emyn mawr sy’n gyfystyr ag Eisteddfod Llanbed – geiriau anfarwol W Rhys Nicholas, ‘Tydi a wnaeth y wyrth’, a wobrwywyd yn yr Eisteddfod gyntaf, Awst 1967 – ac meddai:
‘”Mae’r haleliwia yn fy enaid i / A rhoddaf Iesu fy mawrhad i ti”. That’s what it’s all about!
A dyna ddweud y cwbwl mewn gwirionedd.

Dyma gyfle i wrando ar emyn Rhys Nicholas a thôn Eddie Evans, ‘Pantyfedwen’ (tôn a wobrwywyd yn Eisteddfod Llanbed 1968). Fe’i canwyd gydag arddeliad i gloi’r oedfa yn Noddfa eleni: https://soundcloud.com/delyth/pantyfedwen