Rhaid i ni gymryd cyfrifoldeb o sefyllfa’r bencydd

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus yng Nghlwb Rygbi Llanbed ar yr 21ain Rhagfyr i drafod y ffaith bod Banc Natwest Llanbed yn cau.  Trefnwyd y noson gan FUW Ceredigion a Phlaid Cymru Ceredigion er mwyn casglu sylwadau ar sut i weithredu.

Y siaradwyr gwadd oedd Elin Jones AC, Ben Lake AS a Mared Jones FUW.  Cadeiriwyd y noson gan y Cynghorwr Hag Harris.

Er mai siomedig oedd y nifer a fynychodd y cyfarfod hwn cyn Nadolig fel hyn, cafwyd trafodaeth fywiog a gwyntyllwyd syniadau diddorol.

Soniodd Elin Jones wrth agor y cyfarfod ei bod wedi cwrdd ag uwch reolwyr y Banc yn Aberteifi yn ddiweddar, a’u bod wedi addo darparu gwasanaeth bancio mewn fan yn Llanbed.  Ond chwerthinllyd iawn oedd y darpariaeth, sef am 45 munud yn unig ar ddydd Mawrth.

Cafwyd cryn drafodaeth am y gwasanaeth mewn fan yn ystod y noson.  Cytunwyd nad oedd 45 munud yr wythnos yn ddigonol.  Ac er ei fod yn ymgais i wasanaethu bancio personol, doedd hyn ddim yn cyflawni gofynion bancio busnes.  Cadwyd y mater o breifatrwydd a darpariaeth ar gyfer cwsmeriaid ag anghenion arbennig.

Yn ei anerchiad, mynegodd Ben Lake ei bryder ynglŷn ag effaith hyn ar fusnesau bach lleol.  Cafwyd cyfraniadau tebyg gan gynrychiolwyr busnesau fel Tony Hatcher, Gwynfor a Dafydd Lewis, Sian Davies ac Angharad Williams.

Pwysleisio effaith cau’r banciau ar amaethwyr oedd prif bwynt Mared Jones.  Dywedodd bod defnyddio sieciau yn dal yn rhan bwysig o fasnachu yn yr ardal hon ac na fyddai bancio ar lein yn addas.  Ategwyd hyn gan Eryl Price sy’n amaethu yn ardal Cwmsychpant, a dywedodd nad oedd signal ffôn a darpariaeth band llydan yn ddigonol mewn llawer iawn o’r ardaloedd gwledig i ystyried addasu i wneud unrhyw fancio ar lein.

Bydd cau banc yn rhwystro gweithgareddau clybiau a mudiadau lleol hefyd medd Mared.  Sut fydd y Clybiau Ffermwyr Ifanc er enghraifft yn gallu trin arian gyda diflaniad banc?  Mudiadau gwirfoddol fel hyn yw asgwrn cefn gweithgareddau cymdeithasol yn yr ardal.

Yn dilyn y tri chyflwyniad, cafwyd cyfraniadau gwerthfawr o’r llawr gan lawer o bobl dan gadeiryddiaeth Hag Harris.  Dywedodd y Cynghorydd Rob Phillips fod tystiolaeth y banc yn anghywir, a’u bod yn cau’r lle ar gam.  Galwodd hefyd am weithredu.  Trafodwyd y syniad o brotestio o flaen y banc ar y Stryd Fawr a galw cyfarfod cyhoeddus eto gyda chynrychiolwyr y pedwar banc er mwyn cynllunio i’r dyfodol.

Gofynnodd Gary Watkins “Beth mae’r llywodraeth yn mynd i ’neud er mwyn helpu?”  Cyfeiriodd Ben Lake at sawl cwestiwn a ofynnwyd yn San Steffan am hyn ac mai’r ateb bob tro oedd peidio ymyrryd.

Nododd y Cynghorydd Rhys Bebb Jones y byddwn ni’n colli gwasanaeth bancio Cymraeg wrth golli banc gan nad oes gwasanaeth bancio Cymraeg ar lein yn bodoli.

Gofynnodd y Cynghorydd Dafydd Edwards am asesiad effaith.  Onid oes cyfrifoldeb gan y bencydd i asesu effaith cau banc ar gymunedau?

Yn dilyn hyn cytunodd Ben Lake i edrych mewn i drwyddedau bencydd er mwyn ceisio cynnwys amod ar eu dyletwydd i wasanaethu cymunedau yn ogystal ag edrych i weld a yw Natwest wedi dilyn y camau cywir cyn cyhoeddi eu bwriad i gau banc Llanbed ac Aberteifi.

Cyfeiriodd Carys Mai at ddeiseb gan Blaid Cymru ac anogodd bawb i’w harwyddo cyn diwedd y noson, neu ar lein.

Daethpwyd i benderfyniad bod angen herio penderfyniad Natwest i gau bencydd Llanbed ac Aberteifi a galw am barhau â’u gwasanaethau bancio yn yr ardaloedd hyn, yn ogystal â cheisio rhwystro rhagor o fencydd rhag cau.  Ar ben hyn bydd angen cynllunio i’r dyfodol a gweld os ellir cydweithio rhwng cwmnïoedd bancio ar gyfer sefydlu canolfannau bancio pwrpasol i’r ardaloedd.

Cafwyd areithiau cloi gan y tri, a’r neges gryfaf oedd gan Mared Jones a ddywedodd, “Rhaid i ni gymryd cyfrifoldeb am hyn ein hunain.”

Felly, pan drefnir cyfarfod arall, gofynnir am fwy o gefnogaeth.  Ble oedd holl gynrychiolwyr cwmnïoedd lleol sy’n dibynnu ar fanc yn Llanbed?  Ble’r oedd trigolion yr ardal sy’n poeni am ddyfodol masnachu yn nhref Llanbed?  Ble’r oedd holl aelodau’r Undeb Amaethyddol?  Cafwyd ymrwymiad llawn gan yr Aelod Seneddol a’r Aelod Cynulliad.  Felly bydd angen eich presenoldeb chi’r tro nesaf, er mwyn gwireddu her Mared Jones yn llwyddiannus.

Cynhelir cyfarfod tebyg yn Neuadd y Dref Aberteifi ar y 18fed o Ionawr.

1 sylw

Meleri
Meleri

Fel un o Landysul, dydyn ni ddim wir yn gweld angen y banciau. Ni’n gallu rhoi arian parod i mewn i unrhyw fanc – Natwest, HSBC, Lloyds, Barclays, Santander, Nationwide etc etc yn Swyddfa’r post a byddwn yn gallu gwneud hynny ar ddydd Sadwrn a Sul a hynny tan 9 yn y flwyddyn newydd.

Doedd neb yn galaru diflaniad y Pennyfarthing, y telegram blychau teliffôn na Blockbuster video pan aethon nhw. Mae banciau yn bethau anacronistig bellach ac mae angen i’r genhedlaeth hŷn symud gyda’r oes a sylweddoli bod Swyddfa Post Llambed yn gallu cynnig yr un gwasanaethau a mwy dan yr un to.

Mae’r sylwadau wedi cau.