Rheilffordd drwy Lanbed a Llanybydder gam yn nes

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae’r posibilrwydd o adeiladu gorsafoedd trên yn Llanbed a Llanybydder ar gyfer y rheilffordd o Gaerfyrddin i Aberystwyth wedi dod gam yn nes.

Daw hyn wrth i waith ymchwil ddechrau i weld a yw’r cynllun o ailagor y rheilffordd yn bosib, a hynny wedi oedi ynghynt eleni.

Fe fydd yr astudiaeth gwerth £300,000 yn dechrau ym mis Medi a’r disgwyl yw y gallai gyflwyno adroddiad yn y gwanwyn.
Yn ôl Adrian Kendon o Lanbed, Cadeirydd mudiad Traws Link Cymru, mae’r mudiad yn hyderus y bydd yr adroddiad yn un “ffafriol”.

Bron y cyfan ‘ar gael’
“R’yn ni wedi archwilio holl lwybr o’r hen lein ac mae 97% ohoni yn dal i fod ar gael,” Adrian Kendon.
Mae’r broblem fwya’ yn ardal Aberystwyth, meddai gan esbonio y byddai modd adeiladu twnnel i osgoi mannau lle bu datblygu.
Mewn mannau eraill, fe fyddai angen prynu tir y rheilffordd yn ôl oddi ar ffermwyr – “fe fydd rhai’n anfodlon ond dw i’n siŵr bod modd goresgyn yr anawsterau hynny.

Gweddnewid economi
Fe fyddai ailagor y rheilffordd – a gaewyd yng nghyfnod Beeching yn yr 1960au – yn hwylus i bobol Ceredigion a rhannau o Sir Gaerfyrddin, meddai, ac fe allai weddnewid yr economi lleol.
“Mae yna ardal anferth o’r Gymru wledig heb unrhyw gyswllt uniongyrchol gyda’r rhwydwaith rheilffyrdd,” meddai Adrian Kendon.
“Mae 46 o gynghorau cymuned yn cefnogi’r cynllun ac mae’r diwydiant coedwigaeth hefyd yn cefnogi – fe allai un trên gario gwerth 200 lorri o goed.”
Cwmni o’r enw Mott Macdonald fydd yn gwneud y gwaith ar ran Trafnidiaeth Cymru – roedd yr arolwg i fod wedi dechrau ym mis Mai.