Sglein ar Sioe Ddawns Sally Saunders

Nia Wyn Davies
gan Nia Wyn Davies

Ar nos Wener 7fed a’r 8fed o Ebrill, roedd Theatr Felin fach dan ei sang. Teulu a ffrindiau a phlant mawr a phlant bach yn barod am wledd i’r synhwyrau. Yn dilyn ymarferion cyson a diflino gan Miss Sally a Miss Sioned llwyddwyd i lwyfannu sioe roedd wir gwerth siarad amdani. O’r plant 4 oed i’r dawnswyr hynaf, roedd sglein ar y cyfan.

Mickey Mouse, Splish splash, Little shop of horrors a Cinderella – i enwi ond rhai o’r perfformiadau lliwgar roddodd gyfle i bawb serennu. Roedd pob dawns yn gyfleu i greadigrwydd a gallu’r hyfforddwyr gael llwyfan deilwng ac i fanteisio ar holl gyfoeth technegol y theatr yn Felin fach.

Cafwyd dwy awr o ddawnsio o’r modern i dap i fale. Braf hefyd oedd gweld dawnswyr fu wrthi yn y sioe ddiwethaf yn cael cyfle i arwain y dawnswyr lleiaf  gan rannu eu brwdfrydedd a’u harbenigedd gyda’r tameidiau yn eu twtws.

O’r sêr ar y gefnlen i sglein y ‘sgidau, y colur a’r gwallt, pob gwisg yn gweddu. Roedd safon uchel y cynhyrchiad yn hollol broffesiynol.

Gwefreiddiol yn wir oedd cyflwyniadau’r dawnswyr hynaf gyda’r cydsymud cystal ag unrhyw beth a welwyd ar lwyfannau mawr Llundain.

“Dancing is silent poetry.” – dyna oedd geiriau Simonides ac imi dyna yn wir oedd anian y sioe hon.

Trwy fwrlwm y miwsig llwyddodd y dawnswyr beth bynnag fo’u hoedran i swyno’r gynulleidfa.

Heiddwen Tomos