Taith Clwb Cerdded Plwyf Pencarreg

gan Alun Jones
Y cerddwyr wrth Bont Hamilton.
Y cerddwyr wrth Bont Hamilton.

Prif nod Clwb Cerdded Plwyf Pencarreg yw cerdded gwahanol lwybrau’r Plwyf, ond eleni buom yn cerdded at, ac edrych ar hen hanes drwy groesi Afon Teifi i Sir Aberteifi. Ein bwriad felly oedd edrych a gweld ble safai “Pont Hamilton”. Cawsom ein harwain gan gymwynaswr mawr i gymdeithas Cwmann a Phlwyf Pencarreg ym mherson Eric Williams, Y Fedw.

Cerdded lawr drwy dir yr Hen Sgweier Syr Herbert Lloyd Ffynnon Bedr a thrwy Gae Sion Philip yr hwn a gollodd ei fywyd drwy dwyll Y Sgweier yn ôl hanes, am fraster dolydd y Teifi. Beth â’m synodd yn fawr yw pa mor droellog yw Afon Teifi, er hynny roedd y cerdded yn rhwydd a’r cwmni yn hwylus wrth weld aberoedd nentydd Eiddig a’r Hor.

Olion Pont Hamilton ar ochr Plwyf Pencarreg.
Olion Pont Hamilton ar ochr Plwyf Pencarreg.

Ymhen amser, cyrraedd “Pont Hamilton” yn ôl map Ordinans 1906 neu Pont Droed {Foot Bridge} yn ôl map Ordinans 1891 oedd yn pontio Afon Teifi rhwng tir Dolgwm Isaf a Dolaugwyrddion Isaf.  Yn anffodus dim ond pileri cerrig sydd yn aros, a llifogydd y Teifi yn tanseilio ychydig o’r pileri ar ochr Sir Gâr.

Gwyddom fod Rhys ap Owen yn berchen Dolgwm Isaf tua’r flwyddyn 1500 ond erbyn 1725 ym mherchnogaeth Teulu Vaughan o Jordanston Sir Benfro. Wedi dyddiau Vaughan daeth i law Syr James Cockburn oedd yn berchen ac yn byw mewn fferm cyfagos sef Cefnbryn.  Priododd merch  Syr James sef Marianna Augusta a Syr James Hamilton, Bart a dyna  enedigaeth “Pont Hamilton”. Rhoddodd y wraig yn helaeth i’r plwyf ac i eglwys Sant Padryg Pencarreg. Yn ôl hanes, pont gul ydoedd er bod eu hyd lled afon Teifi a thybiaf ei bod wedi ei hadeiladu rhwng 1866 a 1870 gan fod deunydd y pileri yn debyg i bontydd y rheilffordd a adeiladwyd ychydig flynyddoedd ynghynt. Tybiwn hefyd fod y bont wedi hadeiladu er mwyn osgoi cerdded o amgylch Llanybydder, gan fod fferm Dolgwm Isaf a thiroedd ar draws y Teifi yn Sir Aberteifi.

Dod i gof stori gan Bethan Phillips yn llyfr “Peterwell” am “Von” Dolgwm yn herio Sir Herbert Lloyd am dreio dwyn fferm fechan Felinsych Pencarreg a oedd mewn perchnogaeth preifat.

Wedi cael lluniau o’r gorffennol, troi oddi wrth Afon Teifi am ffermydd Dolaugwyrddion Isaf ac Uchaf a chyrraedd prif-ffordd Llanbed i Gastell Newydd Emlyn, troi i’r chwith am rhyw bump-can llath trwy bentref Pentre-Bach a phasio hen Eglwys Sant Ioan. Lan am fferm-dy Pentre Sion a cherdded dros y banc am fferm Ty-Llwyd a Heol Maestir.  Colli peth o fraster y Nadolig.  Da gweld hefyd bod ffermydd yn ardal Llanbed yn parhau i odro. Cerdded lawr heibio hen Glwb Golff Ffynnon Bedr, ac Eric yn dangos ble oedd twll cyntaf y cwrs.  Erbyn hyn roeddem yng ngolwg mwg ein cartrefi yn Sir Gâr.

Diwrnod i’w drysori am hanes, ac eto heb fod dwy filltir o Lanbed a deugain llath o Blwyf Pencarreg.